Cau Lawr Dros y Nadolig

30/11/20

Cau Lawr Dros y Nadolig – 21ain Rhagfyr i 11eg Ionawr

Mae’r corachod Cair wedi bod yn brysur iawn yn ein gweithdy trwy gydol 2020, gan wneud ein cynhyrchion arloesol a chreu pethau newydd cyffrous ar gyfer 2021. Yn ystod y Nadolig hwn, byddant yn cymryd egwyl estynedig, yn bocsio anrhegion Nadolig yn lle ein datrysiadau Teleofal, a chyfnewid eu hoffer am siocledi poeth wrth iddynt fwynhau eu hegwyl haeddiannol. O’r 21ain o Ragfyr, bydd ein Groto a’n prif swyddfa ar gau, ond byddwn yn nol gyda chlec ar yr 11eg o Ionawr gyda danteithion anhygoel i chi eu mwynhau yn 2021!

Rydym yn gwybod y bydd llawer ohonoch yn dal i weithio dros gyfnod y Nadolig, felly peidiwch â phoeni, gallwch anfon e-bost at hello@we-cair.com i gysylltu â ni am gefnogaeth. Bydd angen gosod pob archeb newydd erbyn y 14eg o Ragfyr ar gyfer ei dderbyn cyn Nadolig, a bydd archebion newydd yn ailddechrau ar yr 11eg o Ionawr 2021.

Arhoswch yn ddiogel ac yn iach, ni allwn aros i’ch gweld yn y flwyddyn newydd.