Cyflwyno’r CairWear NEWYDD: Ein Pendant Larwm Personol Hyblyg

08/10/26

Cyflwyno’r CairWear NEWYDD: Ein Pendant Larwm Personol Hyblyg

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi lansiad y CairWear, ein pendant larwm personol newydd sydd wedi’i gynllunio i roi ffordd gynnil, hyblyg a chysurlon i ddefnyddwyr alw am gymorth.

Wedi’i gynllunio i weithio gyda systemau Teleofal cydnaws, gan gynnwys y Notifier+ a’r Vibe, mae’r CairWear yn rhoi mwy o ddewis i ddefnyddwyr o ran sut maent yn gwisgo ac yn defnyddio eu larwm personol.

Pan fydd larwm yn cael ei actifadu, mae adborth haptig dewisol yn rhoi sicrwydd bod y larwm wedi’i sbarduno’n llwyddiannus. Ac oherwydd bod anghenion pawb yn wahanol, gellir diffodd y nodwedd hon pan nad yw’n addas.

 Wedi’i Gynllunio o Amgylch y Defnyddiwr

Mae’r CairWear wedi’i gynllunio gyda hyblygrwydd, cysur a rhwyddineb defnydd mewn golwg:

✓ Opsiynau i’w wisgo ar yr arddwrn neu o amgylch y gwddf
✓ Adborth haptig dewisol i gadarnhau bod larwm wedi’i actifadu
✓ Gellir analluogi’r adborth haptig os oes angen
✓ Siaced ‘hawdd ei wasgu’ ar gael ar gyfer defnyddwyr sy’n cael anhawster â deheurwydd 

Mae’r  Siaced ‘hawdd ei wasgu’ yn darparu opsiwn ychwanegol i ddefnyddwyr a allai ei ffeindio hi’n anodd gweithredu botwm larwm traddodiadol, gan wneud actifadu’r larwm yn haws ac yn fwy hygyrch.

Boed wedi’i wisgo ar yr arddwrn neu o amgylch y gwddf, mae’r CairWear yn cynnig ffordd syml a chynnil o gael gafael ar gymorth, gyda dewisiadau y gellir eu haddasu i ddiwallu anghenion unigol. Mae wedi’i gynllunio i roi sicrwydd pan fo hynny bwysicaf.

Diwedd.