Cair ydym ni. Creu technolegau clyfar sy’n helpu i ofalu am bawb.

Rydyn ni’n cynhyrchu atebion arloesol sy’n helpu i’ch cadw chi, eich anwyliaid neu’r bobl rydych chi’n eu cefnogi’n ddiogel, gyda thechnoleg y byddem ni i gyd eisiau yn ein cartrefi. Lawrlwythwch ein llyfryn yma.

10 Cynnyrch Newydd i’r 10fed Blwyddyn

Cynhyrchion sydd yn deud bod dim nhw hyn…

 

Mae atebion deallus yn sicrhau y gellir gofalu am bobl sydd angen cefnogaeth 24/7, heb roi galwadau diangen i ofalwyr. Mae ein hoffer yn darparu amgylchedd mwy diogel wrth ganiatáu i ofal gael ei ddarparu mewn ffordd fwy clyfar.

Mae ystod Cair yn cynnig atebion i lawer o heriau sy’n wynebu’r rheini ag anghenion ychwanegol, gan ganiatáu iddynt aros yn ddiogel, cael eu cefnogi a chadw mewn cyswllt, lle bynnag y maent yn dewis galw adref. Teleofal yw hwn, ond nid fel yr ydych yn ei nabod.

Mae ein cynhyrchion wedi’u cynllunio i nid yn unig weithio’n dda, ond maent yn edrych yn wych hefyd. Yn Cair credwn yn gryf na ddylid cadw dyluniad da ar gyfer yr ifanc a’r galluog yn unig, mae dyluniad da yn gynhwysol.

Beth ydym ni yn ei ddweud

“Rydyn ni’n gwrando, ac rydyn ni wedi cynllunio ein cynnyrch ar gyfer yr hyn yr hoffai ein cwsmeriaid, a ninnau, ei gael yn ein cartrefi ein hunain i ofalu am ein hanwyliaid. Rydyn ni’n sefyll allan, oherwydd rydyn ni’n sefyll i fyny ac yn gwrando. “

Beth mae ein cwsmeriaid yn ei ddweud

“Wedi profi a gweld yr offer o lygad y ffynnon, rhain yw’r gorau yn y diwydiant a rhywbeth a fyddwn yn falch i gael yn gartrefi fy anwyliaid.” / Gary Clark, Orestone Controls Ltd.

O’r Newyddion

Ailgylchu i Ein Cwsmeriaid am Ddim

Ailgylchu i Ein Cwsmeriaid am Ddim

Fel rhan o'n hymrwymiad i fod yn ffeind i'r amgylchedd mi rydym hefyd yn angerddol am ddylanwadu ein cwsmeriaid i wneud yr un peth. Pan fydd uned yn cyrraedd 'diwedd eu bywyd', gallwn ailgylchu'r...

Cau Lawr Dros y Nadolig 2022

Cau Lawr Dros y Nadolig 2022

Cau Lawr Dros y Nadolig - 23ain Rhagfyr i 2il Ionawr Mae o wedi bod yn flwyddyn brysur arall i gorachod Cair! Mae'r gweithdy wedi bod yn wirioneddol lle hudolus wedi eu llenwi efo syniadau cyffrous...

Pwy yw Cair?

Pwy yw Cair?

Lansiwyd Cair yn 2013, gyda chenhadaeth i wellau bywydau pobl drwy dechnoleg arloesol. Mae ein Rheolwr-Gyfarwyddwr, Mohammed wedi bod yn neud technoleg ddiwifr am dros 13 mlynedd, a welodd cyfle i...