Beth rydyn ni’n ei wneud
Cair: Yn darparu gofal dros yr awyr. Credwn y gellir gwella bywydau pawb trwy atebion arloesol a dyluniad gwell. Dyna pam rydym yn ymfalchïo mewn creu teleofal a thechnolegau clyfar y byddem ni i gyd eu heisiau yn ein cartrefi. Dyluniwyd ein technoleg gydag ystyried pawb, a’n nod yw creu atebion sy’n gynhwysol a gwella ansawdd bywyd; rydym eisiau wneud gwahaniaeth ym mywydau pawb sy’n defnyddio ein hoffer. Gan barhau i ymdrechu i wella’r dyfodol, mae ein tîm talentog a chreadigol yn gweithio’n agos gyda’n cwsmeriaid i greu’r atebion sydd eu gwir angen, wedi’u hysgogi gan ofal am bobl a’r amgylchedd… a paned o de neu ddwy o Swydd Efrog.

“Design the product for your loved ones, your nearest and dearest.”

Wedi’i wneud yn Swydd Efrog
Mae hynny’n gywir! Mae ein holl gynhyrchion yn cael eu dylunio, eu datblygu a’u cynhyrchu yn Halifax. Mae ein cyfleuster gweithgynhyrchu modern mewn lleoliad delfrydol ger yr M62 yng nghanol y DU, i wasanaethu ein cwsmeriaid ble bynnag y byddwch. Mae’r tegell ymlaen bob amser, felly os hoffech chi drefnu taith i’r ffatri cliciwch yma.



Gofalu amdanom ni i gyd
Mae gofalu am yr amgylchedd yn bwysig iawn i bob un ohonom yn Cair. Rydym yn cymryd nifer o gamau i leihau ein hôl troed carbon a gwella ein perfformiad amgylcheddol. Rydym yn ymdrechu i gael gwared ar BOB plastig yn ein pecynnau wrth sicrhau bod ein dyfeisiau wedi’u cynllunio ar gyfer dadosod yn hawdd a bod deunyddiau ailgylchadwy yn cael eu defnyddio lle bynnag y bo modd. Rydym hyd yn oed wedi creu cynhyrchion glanhau ein hunain sydd yn ffeind i’r amgylchedd, sy’n cael eu defnyddio ar draws y safle. Yn wir i’n hethos, rydym hefyd wedi gosod 4 gorsaf gwefru ceir trydan yr ydym yn annog ein staff a’n hymwelwyr i’w defnyddio. Mae gennym hefyd baneli solar 50kw ar dô ein ffatri, sy’n gallu cyflenwi rhai anghenion ein ffatri, gan ddileu ein galw ar y grid cenedlaethol.

Cwrdd â rhai o’n tîm
Mae pob un o’n cydweithwyr yn chwarae rhan mewn llunio’r dyfodol. Dewch i adnabod ychydig mwy amdanyn nhw heddiw….

Fred
Cydosodwr Electroneg
Pam Cair? Cyfrannu at fy nghymuned
Hoff hobi: Pysgota
Fy nyfyniad bywyd: Bywyd yw beth sy'n digwydd pan fyddwch chi'n prysur wneud cynlluniau
Talent gudd: Chwaraewr gwyddbwyll yn dda

Sean
Datblygwr Systemau Busnes
Pam Cair? Mae pob diwrnod yn sialens ddiddorol
Hoff ffilm: Blade Runner
Cyngerdd cyntaf erioed: Animal Kwackers
Y bwyd mwyaf rhyfeddaf dwi erioed wedi ei fwyta: Coesau brogaod

Wendy
Cydosodwr Electroneg
Pam Cair? Rwy'n hoffi'r cynhyrchion rydyn ni'n eu cynhyrchu ac rwy'n hoffi fy nghydweithwyr
Fy nyfyniad bywyd: Paid â phoeni, bydda'n hapus
Hoff chwaraeon: Roeddwn i wrth fy modd yn rhedeg ond ni allaf ei wneud nawr
Cyngerdd cyntaf erioed: Donny Osmond

Patryk
Arweinydd Llinell Cynhyrchu
Pryd wnaethoch chi ymuno? Mis Ionawr 2013
Pam Cair? Achos dwi'n hoffi be rydym ni'n ei wneud
Hoff gaws: Cheddar garlleg
Hoff ffilm: Lord of the Rings
Lle ffuglennol hoffwn ymweld: The Kingdom of Far Far Away (Shrek)

Lowri
Rheolwr Cyfrif Rhanbarthol
Pryd wnaethoch chi ymuno? Mis Chwefror 2020
Pam Cair? Mae pawb eisiau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl
Byddai fy nghydweithwyr yn fy nisgrifio fel: O hyd yn gyffrous
Fy nyfyniad bywyd: Meddyliwch yn bositif, byddwch yn bositif
Talent gudd: Coginio ‘scotch egg’ (yr un gorau oedd un 'onion bhaji!')

Steven
Peiriannydd Cynnyrch
Pryd wnaethoch chi ymuno? Mis Ionawr 2014
Pam Cair? Rwy'n hoffi gweithio yma. Rwy'n hoffi be rwyf yn wneud
Hoff hobi: Ysgrifennu caneuon
Cyngerdd cyntaf: Rolling Stones, 'Free Trade Hall' Maincenion
Y bwyd mwyaf rhyfeddaf dwi erioed wedi ei fwyta: Gwlithen y môr

Phil
Datblygwr Meddalwedd
Pryd wnaethoch chi ymuno? Mis Gorffennaf 2017
Pam Cair? Diddorol, heriol ac mae'n cynnwys technolegau newydd
Hoff gaws: Stilton gwyn gyda bricyll
Fy nyfyniad bywyd : Os yw rhywbeth yn werth ei gwneud, mae'n werth ei gwneud yn dda, felly gwnewch o eich hun
Talent gudd: Plastro

Neil
Arweinydd Dylunio Diwydiannol
Pryd wnaethoch chi ymuno? Mis Ionawr 2017
Pam Cair? Yr her o greu atebion arloesol ar gyfer marchnad deilwng
Dwi'n fwyaf tebygol o: Gweld y ddwy ochr
Hoff ffilm: Drive
Y bwyd mwyaf rhyfeddaf dwi erioed wedi ei fwyta: Fe wnaeth fy mab gwneud i mi i drio Wotsits mewn iogwrt .... Dwi ddim yn i argymell!

Neil J
Rheolwr Gweithrediadau
Pryd wnaethoch chi ymuno? Ebrill 2022
Pam Cair? Mae'r cwmni efo moeseg, pobl wych ag yn meddwl ymlaen
Rwyf mwyaf tebyg i: Sefyll allan mewn grŵp
Hoff lyfr: Legend gan David Gemmell
Cyngerdd gyntaf: Bruce Springsteen yn stadiwm Gateshead 1985

Robert
Gweithiwr Warws
Pryd wnaethoch chi ymuno? Ebrill 2023
Pam Cair: Rwy’n hoffi fod y cwmni yn creu offer sydd yn helpu pobl!
Hoff gaws: Camembert
Hoff ffilm: The Great Escape
Hoff chwaraeon: Pel droed

Melanie
Cydosodwr Electroneg a SMD
Pam Cair? Mae'n lle da i weithio, mae ganddo awyrgylch da
Fy nyfyniad bywyd: Mae bob dim yn digwydd am reswm
Hoff lyfr: The Girl from Barefoot House gan Maureen Lee
Lle ffuglennol y byddwn yn hoffi ymweld: Alfheim

Malcolm
Peiriannydd Cymorth Technegol
Pam Cair? Dwi'n mwynhau'r gwaith
Byddai fy nghydweithwyr yn fy nisgrifio fel: Dewin
Dwi'n fwyaf tebygol o: Bod mewn modd diagnostig
Lle ffuglennol y byddwn yn hoffi ymweld: Babylon 5

Tipu
Rheolwr Cadwyn Gyflenwi
Pam Cair? Ar gyfer fy nyfodol
Hoff ffilm: Shaun of the Dead
Fy nyfyniad bywyd: Canolbwyntiwch arnoch chi'ch hun ac nid ar farn eraill
Y bwyd mwyaf rhyfeddaf dwi erioed wedi ei fwyta: Byrgyr gyda bynsen binc

Inger
Rheoli Ansawdd
Pam Cair? Moeseg wych, pobl gyfeillgar ac wrth fy modd ddim yn gweithio ar Ddydd Gwener
Hoff lyfr: The Stand
Cyngerdd cyntaf erioed: Diana Ross
Y bwyd mwyaf rhyfeddaf dwi erioed wedi ei fwyta: Brechdan banana a chiwcymbr neu frechdan saws wy a mintys wedi'i ffrio

Mohammed
Rheolwr-Gyfarwyddwr
Pam Cair? Mae o'n dilyn mi bobman!
Dwi'n fwyaf tebygol o: Yfed te a chnoi byrbryd
Fy nghyflawniad balchaf: Gallu cynnig cyflogaeth i'm cyd-ddinasyddion
Talent gudd: Ieithoedd tramor

Kasia
Cydosodwr Electroneg
Pam Cair?: Rwy'n hoffi gweithio yma, oherwydd bod pobl yn neis iawn,ac mae'r awyrgylch yn hyfryd
Hoff ffilm: A Desert Flower
Hoff hobi: Pobi a choginio dwi wrth fy modd

Sandra
Gweinyddwr Cyfrifon
Pam Cair? Mae'n lleol, mae ganddo awyrgylch gyfeillgar
Hoff gaws: ‘Cheesecake’
Hoff hobi: Achyddiaeth
Cyngerdd cyntaf erioed: Meatloaf

Celia
Gweithredwr Cynhyrchu
Pam Cair? Cwmni da iawn i weithio i
Fy nyfyniad bywyd: Nid yw oed yn dod ar ei ben ei hu
Hoff chwaraeon: Rygbi'r Gynghrair
Cyngerdd cyntaf erioed: Hot Chocolate

Alison
Rheolwr Cyffredinol
Pam Cair? Mae'n gwmni braf gyda phobl wych, a be rydym yn ei wneud i helpu eraill
Hoff gaws: Manchengo
Hoff chwaraeon: Undeb Rygbi
Lle ffuglennol y byddwn yn hoffi ymweld: Yr Shire

Marie
Cynorthwyydd Gweinyddol
Pryd wnaethoch chi ymuno? Mis Medi 2023
Pam Cair? Cwmni da, pobl gyfeillgar, offer gwych
Hoff gaws: Garlleg a chaws
Fy nyfyniad bywyd: Yr unig siwrnai amhosib yw'r un sydd byth yn cael eu cychwyn
Cyngerdd cyntaf erioed: Tears for Fears
Tystysgrifau
Rydym yn gwybod, yn ogystal â chynhyrchu cynhyrchion arloesol, cyffrous, na fyddai’n golygu dim heb y safonau cywir i sicrhau bod pob un o’n cynhyrchion yn ddiogel ac yn gadarn, felly rydym yn falch iawn o ddangos y rhain i ffwrdd….
“Rydyn ni’n falch bod y system reoli rydyn ni’n ei defnyddio ar gyfer ochr gweithrediadau ein busnes wedi’i hardystio i dair safon ISO gan ‘Centre for Assessment’, corff ardystio achrededig UKAS: ‘ISO 9001:2015 Quality to help work more efficiently and reduce product failures’, ‘ISO 45001:2018 Occupational Health & Safety to help reduce accidents in the workplace’ ag ‘ISO 14001:2015 Environment to help reduce environmental impacts, waste and be more sustainable’.”
Ymuno â Cair

Hoffi ymuno â ni…
…mewn Cwmni Moesegol, Amrywiol ac Arloesol? Rydych chi wedi dod i’r lle iawn…
Os ydych chi’n rhywun sydd:
- yn angerddol am beth rydych chi’n ei wneud
- yn defnyddio synnwyr cyffredin
- gyda moeseg gwaith tîm
- yn greadigol ac egnïol
- yn meddwl allan o’r bocs
- yn edrych am eich her nesaf
… efallai fydda chi yn cyd-fynd yn dda â theulu Cair a byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi! Ffoniwch ni ar 01422 399157 neu gyrrwch ebost a chawn weld a allwn ni helpu ein gilydd. Mae eich ‘avatar’ (a phanad da) yn disgwyl!