Vibe
Ateb Nam Synhwyraidd
Mae’r Vibe yn ddyfais DDA i gyd mewn un. Mae’r cymorth gweledol a clywadwy yn rhybuddio pobl efo nam synhwyraidd ag anghenion arall fod larwm neu synhwyrydd cysylltiedig wedi cael eu hactifadu. Wedi eu dylunio i ffitio i mewn i’ch ffordd o fyw efo un bocs taclus sydd yn wneud pob dim: rhybuddion ag atgofion clywadwy, gweledol a dirgrynu gobennydd.






Efo 5 eicon LED, mae’n hawdd gweld pa fath o rybudd sydd wedi eu derbyn. Gydag eiconau tân a nwy pwrpasol, mae yna hefyd 3 lleoliad arall.
Drwy ddefnyddio’r rhyngwyneb rhaglennu unigryw wedi eu harwain drwy lais, mae’n bosib eu gosod mewn munudau heb ddim offer ychwanegol.
Mae’r Vibe yn gweithio efo amrywiaeth o synwyryddion gan gynnwys ein cysylltiadau drws/ffenestr, matiau llawr, dyfeisiau deiliadaeth gwely, synwyryddion symud, synwyryddion meddyginiaeth a gymaint mwy
Mae’n bosib ffurfweddu’r Vibe i siwtio’r unigolyn, gyda’r gallu i gyfuno rhybuddion strôb, clywadwy a llais. Wedi cysylltu i’r prif bŵer, gyda batri wrth gefn 24 awr, mae’r defnyddwyr efo’r sicrwydd fod y Vibe o hyd ymlaen.



Mi fydd y Vibe yn rhybuddio’r defnyddwyr fod synhwyrydd amgylchedd wedi actifadu, a hefyd gallu cefnogi gofalwyr gyda nam synhwyraidd, fel eu bod yn cael eu rhybuddio pan fydd synhwyrydd teleofal wedi cael eu hactifadu. Mae’r botwm mawr yn golygu eu bod yn hawdd cydnabod y larwm.
Ar gael ar nifer o brotocolau i ffitio fewn efo’ch system bresennol.

From the News
“Gwyliwch, Dysgwch, Gosodwch: Tiwtorialau Fideo Cair Cam-wrth-Gam”
Yn Cair, rydym yn gwybod bod pawb yn dysgu ychydig yn wahanol. Mae gwell gan rhai canllaw cam wrth gam, tra bod eraill eisiau gweld sut mae'n cael ei wneud. Dyna pam rydym yn creu cyfres o fideos i...
Er Cof am Christine
It is with great sadness that we share the news of the passing of our dear colleague and friend, Christine. Christine was truly at the heart of our Cair family. Over her remarkable 15 years with us,...
Cyflwyno’r Vibe: Oes Newydd o Gymorth Synhwyrol a Chyfathrebu
Rydym yn hynod o falch ein bod wedi lansio'n Vibe yn swyddogol, ein cymorth synhwyraidd a chyfathrebu wedi'i ddylunio i ddod â chymhelliant, annibyniaeth a thawelwch meddwl i'r rhai sydd ei angen...