Cynhyrchion
Dyluniwyd ein technoleg glyfar, ryngweithredol i fod yn hyblyg ac yn addasadwy hefyd, sy’n eich galluogi i ddod o hyd i’r atebion sydd yn helpu chi i ganolbwyntio ar anghenion y person. Edrychwch ar ein cynnyrch i ddarganfod mwy, a sut y gallent eich helpu chi, eich anwyliaid a’r bobl rydych chi’n eu cefnogi.
Notifier
Derbynnydd Larwm Cludadwy
Mae’r Cair Notifier yn dderbynnydd larwm cludadwy arloesol. Wedi’i gynllunio i wneud gofalu yn haws ac yn symlach. Gellir defnyddio’r Notifier o senarios gofalu am un person y holl ffordd i gartrefi gofal, gan gysylltu â hyd at 150 o ddyfeisiau a storio cymaint â 30 o rybuddion ar y tro. Bydd y gofalwr yn derbyn rhybuddion uniongyrchol ar yr Notifier, gan ddweud yn union o ble mae’r rhybudd yn dod, gan alluogi ymateb prydlon sydd wedi’i dargedu.
Chime
Larwm Galwr Ffug/Cloch Drws/‘Nurse Call’
Chime, botwm clyfar, diwifr y gellir ei osod yn unrhyw le i godi larwm! Amlbwrpas, fe ellir ei ddefnyddio fel system galwr ffug, neu gyda’i amddiffyniad tymheredd isel a’i ddyluniad diddos, gellir ei ddefnyddio fel cloch drws allanol hefyd.
CairFall
Synhwyrydd Cwympo
Gyda phum lefel sensitifrwydd, mae’r CairFall yn synhwyrydd cwympo ddeallus sydd yn hawdd eu ffurfweddu sydd yn addas i fwy o ddefnyddwyr nag erioed! Rydym wedi gweithio yn agos efo nifer o ddefnyddwyr i greu ateb codymu amryddawn, ellir eu gwisgo ar yr arddwrn neu wddf. Yn hybu annibyniaeth a hyder, mae’r ddyfais glyfar, ysgafn yn galluogi unigolion i symud o gwmpas eu cartref, yn ymwybodol fydd rhybudd yn cael eu codi os maent yn dioddef codwm caled. Mae’r botwm sydd yn hawdd eu pwyso hefyd un alluogi’r defnyddwyr i alw am gymorth.
Flood
Synhwyrydd Llifogydd
Y Flood yw’r ffordd luniaidd a disylw i ganfod llifogydd a dŵr yn gollwng. Yn ddiddos i safon IP67, gellir ei ddefnyddio dro ar ôl tro.
Contact
Synhwyrydd Drws/Ffenestr
Contact, ein datrysiad monitro drws a ffenestri arloesol, sy’n cynnig cymaint mwy nag yr ydych wedi arfer efo. Datrysiad rhyngweithredol, diddos a fydd yn ffitio i mewn i ble bynnag mae rhywun yn dewis galw adref.
Detect
Synhwyrydd Deiliadaeth/Enwresis
Mae’r Detect yn syml ond clyfar, yn caniatáu ichi fonitro deiliadaeth ac enwresis gyda un uned! Gall arwydd gweledol a chlywadwy roi sicrwydd ychwanegol hefyd.
Onyx
Larwm Personol
Yr Onyx yw larwm personol cyntaf yn y byd a ysbrydolwyd gan emwaith. Gyda phellter gweithio hyd at 600m, ac yn rhyngweithredol â chyflenwyr TEC eraill, dyma ein larwm personol mwyaf datblygedig eto!
Sit/Sleep
Padiau Synhwyrydd Deiliadaeth
Gan weithio gyda’r Detect, mae’r padiau pwysau cadair a gwely disylw yn rhoi monitro deiliadaeth glyfar i chi.
Enuresis
Mat Enwresis
Yn gweithio efo’r Detect, mae’r mat Enuresis yn darparu dull mwy disylw, llai ymwthiol o ganfod gwlychiad.
Request
Larwm Radio Botwm Mawr
Request, y botwm mawr diwifr sydd yn hawdd ei bwyso. Yn ddigon sensitif i ganfod y cyffwrdd lleiaf, mae’n ffordd syml o alw am help yn hawdd, a heb unrhyw wifrau gellir ei osod yn unrhyw le!
Orion
Estynnwr Pellter Gweithio
Mae’r Orion yn helpu le bydd ddiffyg signal offer Teleofal. Mae’n ymestyn pellter gweithio synhwyryddion hyd at 1 cilomedr, gan sicrhau nad yw larymau sy’n hanfodol i fywyd byth yn cael eu methu.
Floor
Mat Pwysau Llawr
Mae Cair Floor yn fat pwysau llawr mawr, safon uchel gyda defnydd gwrthlithro. Pan fydd yn cael eu defnyddio gyda synhwyrydd cyffredinol, fel y Cair Connect, mi fydd yn creu rhybudd yr eiliad mae defnyddwyr yn sefyll arno.
Pill
Dosbarthwr Bilsen
Mae’r dosbarthwr pilsen awtomatig yn galluogi meddyginiaethau i gael eu dosbarthu yn saff ar yr amser y bydd angen. Pan fydd y meddyginiaethau yn barod i’w gymryd, mi fydd y ddyfais yn troi i ryddhau’r meddyginiaethau ac mi fydd yna larwm clywadwy a rhybudd LED.
Sit/Sleep Advanced
Synwyryddion Gwely/Cadair Ddiwifr
Dim gwifrau, llai o broblemau! Mae’r Sleep Advanced a Sit Advanced yn ddyfeisiau deiliadaeth gwely a chadair i gyd mewn un.
Mae’r dyfeisiau syml a hawdd eu defnyddio yn cynnwys mat deiliadaeth ac uned rheoli fach o fewn clostir. Mae absenoldeb gwifrau yn meddwl fod yr uned yn llai tebygol o gael eu hymyrryd â.
Smoke a Heat+
Larymau Mwg a Gwres Gydgysylltiedig
Mae’r Smoke+ a Heat+ yn larymau gydgysylltiedig clyfar a ddisylw. Mae’n hawdd i’w rhaglennu i weithio efo’i gilydd, yn sicrhau fod dyfeisiau cysylltiedig yn rhybuddio pan fydd angen..
Reach
Llinyn Tynnu Radio
Mae’r Reach yn llinyn tynnu diddos, diwifr, hawdd i gydio gyda chordyn hir ar gyfer tu fewn ag allan.
Yn ddelfrydol i ystafell gwely, ystafell ymolchi neu lolfa, mae’n bosib gosod y Reach yn strategol o gwmpas y cartref i roi diogelwch a sicrwydd meddwl ychwanegol os fydd yna argyfwng, yn enwedig i ddefnyddwyr sydd yn ffeindio fo’n anodd pwyso botwm, neu i ardaloedd ble mae’n anodd gwisgo larwm personol.
Emfit
Monitor Symudiad Cysgu
Mae’r Emfit yn system monitro symudiad cysgu gyda’r gallu i yrru neges radio yn ddiwifr.
Mae’r system yma yn monitro ag yn dadansoddi symudiad i godi sylw os fydd symudiad afreolaidd wedi cael eu canfod. Mae’r Emfit yn cynnwys synhwyrydd gwely, uned rheoli a throsglwyddydd Cair.Â
CO/Heat/Smoke
Larymau Radio Diwifr
Mae’r larymau CO, Heat a Smoke yn unedau cryno, disylw sydd yn rhoi rhybudd buan o risg yn yr amgylchedd gartref.
Pan fydd digwyddiad yn cael eu darganfod, mi fydd yna rhybudd clywadwy uchel a fydd neges radio yn cael eu gyrru i’r ddyfais derbyn hefyd.
Climate
Synhwyrydd Tymheredd a Lleithder
Mae’r Climate yn synhwyrydd tymheredd a lleithder i gyd fewn un ddyfais ddisylw. Mi fedrith ddarganfod tymereddau uchel ag isel, tymheredd sydd yn codi yn sydyn, a lefelau lleithder uchel ag isel.
Mae’r Climate efo 8 lefel trothwy i bob opsiwn, ag yn hawdd eu rhaglennu efo’r botwm.
Â