Chime
Larwm Galwr Ffug/Cloch Drws/‘Nurse Call’
Chime, botwm clyfar, diwifr y gellir ei osod yn unrhyw le i godi larwm! Amlbwrpas, fe ellir ei ddefnyddio fel system galwr ffug, neu gyda’i amddiffyniad tymheredd isel a’i ddyluniad diddos, gellir ei ddefnyddio fel cloch drws allanol hefyd. Ydych chi’n chwilio am ddatrysiad ‘Nurse Call’ lluniaidd, mwy clyfar a mwy cost-effeithiol mewn lleoliadau gofal? Gellir teilwra’r Chime gyda’n Notifier ac estynnwr pellter gweithio ar gyfer ffordd ddiwifr fforddiadwy!
Mae’r ddyfais ddi-wifr gryno yn caniatáu iddo gael ei leoli mewn unrhyw leoliad, gyda nifer o opsiynau gosod. Mae gan y Chime dri opsiwn ar gyfer gosod – gludiog, sgriwio, a phatres magnetig arloesol sy’n galluogi i’r ddyfais gael ei symud o gwmpas y cartref lle bo angen!
Mae ei ddyluniad gwydn yn sicrhau dibynadwyedd pan gaiff ei ddefnyddio y tu mewn a’r tu allan i’r eiddo.
Mae gan Chime bellter gweithio hyd at 600m, a batri gyda oes waith o 7 mlynedd.
O’r Newyddion
Cau Lawr Dros y Nadolig 2025
Bydd ein swyddfeydd yn cau am 5pm ar 23ain o Ragfyr ac fe ddychwelwn ar 5ed o Ionawr 2026. Ein dyddiad cludo olaf cyn cau bydd 23ain o Ragfyr; bydd unrhyw archebion a dderbynnir ar ôl 22ain o Ragfyr...
Cyflwyno’r Pill+: Rheolaeth Meddyginiaeth Glyfar ag Mwy Cefnogol
Ers blynyddoedd, mae’r Pill (dosbarthwr bilsen Piovtell Advanced) wedi bod yn rhan ymddiriedus o’n hystod cynnyrch, gan helpu unigolion i gymryd eu meddyginiaeth yn ddiogel ac ar yr amser cywir....
Diwrnod ym Mywyd Sian yn Cair UK
Mae Sian wedi bod gyda ni ers Tachwedd 2024 ac yn y cyfnod hwnnw mae hi wedi gadael ei marc anhygoel ar y busnes, ein cydweithwyr a’n cwsmeriaid. Mae hi’n rhan annatod o’n tîm, ac er bod y mwyafrif...



