10 Cynnyrch Newydd i’r 10fed Blwyddyn – Notifier

02/03/23

Blwyddyn yma, rydym yn dathlu ein 10fed penblwydd. I ddathlu, rydym yn lansio 10 cynnyrch newydd. Yr un gyntaf yw’r Notifier, ein derbynnydd i’r dyfodol digidol. Nid yn unig wedi gwella, mae’n newydd.

Mi oedd ein derbynnydd gyntaf, y Buzzz, yn galluogi gofalwyr, mewn gosodiadau gofal un-i-un neu fwy, i gael eu rhybuddio pan oedd synhwyrydd Teleofal yn cael eu hactifadu. Tra mae’r Buzzz wedi bod yn llwyddiannus, rydym wedi defnyddio’r amser yma i ddysgu’r cyfyngiadau a’r arloesi sydd wirioneddol eu hangen mewn cymaint o amgylchiadau a phosib. Roedd deall sut oedd y Buzzz yn cael eu defnyddio mewn gosodiadau gofal ffurfiol ag anffurfiol wedi galluogi ni i greu wir arloesi yn y Notifier.

Un cyfyngiad i dderbynnydd ar y farchnad, gan gynnwys y Buzzz, oedd y gallu i greu diogelwch i rheini sydd yn dibynnu’n bennaf ar ofalwyr yn gartref nhw hyn. Gydag ateb sydd yn annibynnol o system arall, be fysa’n digwydd os mae’r person sydd yn derbyn y gofal angen cymorth pan mae’r gofalwyr wedi mynd allan? Beth os mae’r gofalwyr nhw hyn angen cymorth? Dyma wnaeth arwain ni i ddatblygu’r nodwedd dargyfeirio sydd yn galluogi teulu a gofalwyr i gael y dewis i ofalu yn yr achos cyntaf, ond yn rhoi’r sicrwydd fydd y galwad yn cael eu dargyfeirio i uned Teleofal os na fydd yr Notifier yn cael eu cydnabod. Mae’n bosib newid yr amser mae’n cymryd galwad i ddargyfeirio yn hawdd ar y Notifier, neu mae’n bosib i’r gofalwyr gadael y ddyfais wybod bod nhw i ffwrdd fel bod y galwad yn mynd i’r ganolfan fonitro syth bin. Mae’r botwm SOS hefyd yn rhoi’r gallu i’r gofalwr creu galwad am gymorth i’r ganolfan fonitro, lle fedrith nodi na’r gofalwyr sydd yn ofyn am gymorth a bod y camau priodol yn cael eu cymryd. 

Roeddem yn gydnabyddus fod yna le i dderbynnydd diwifr mewn gosodiadau arall, fel cartrefi gofal. Mae nodweddion sydd wedi eu hadeiladu i mewn i’r Notifier wedi eu dylunio efo math yma o osodiadau mewn golwg hefyd. Mi ellir personoli’r Notifier o gwmpas anghenion y cartref gofal ac mae’n bosib defnyddio mwy nag un Notifier. Mae yna nifer o sefyllfaoedd i ddangos sut ellir sefydlu’r Notifier. Mewn cartref llai, mae’n bosib fod angen dwy uned, un i gael eu cario o gwmpas y cartref, tra mae’r llall yn gwefru. Gan fod y Notifier yn gallu storio hyd at 150 synhwyrydd, mae’n bosib fod rhaglennu’r ddyfais yn cymryd dipyn o amser, felly rydym wedi creu’r nodwedd clonio. Mae’r nodwedd yma yn golygu fod ond angen rhaglennu’r gosodiadau a synwyryddion i un ddyfais, i safio amser a lleihau’r risg o gamgymeriadau. Mewn gosodiadau fwy, defnyddiwch dau neu fwy Notifier efo’i gilydd. Ella fod synwyryddion o hanner yr eiddo yn mynd i un Notifier yn y lle cyntaf, ond os fydd yr Notifier ddim yn cael eu cydnabod yn yr amser sydd wedi eu gosod, mae’n bosib defnyddio’r nodwedd dargyfeirio i rybuddio gofalwyr ar Notifier arall. Os mae gofalwyr efo argyfwng i ddelio efo, mi fedrith gosod yr Notifier i ddeud eu bod i ffwrdd fel bydd yn dargyfeirio yn awtomatig i Notifier arall i sicrhau fod y preswylydd yn cael cymorth cyn gynted â phosib.

Pan fydd synhwyrydd angen rhybuddio pob Notifier, er enghraifft i ddeud fod y drws ffrynt wedi eu hagor, mae’n bosib rhybuddio pob aelod o staff. Cyn gynted a fydd aelod o staff ar gael yn cydnabod y rhybudd, mae’r nodwedd clirio yn awtomatig yn golygu bydd galwadau yn cael eu clirio o bob dyfais arall, yn ogystal â’i chynghori pa Notifier sydd wedi ymateb. 

Rydym hefyd wedi rhoi sylw i agweddau technegol arall gan gynnwys cyflwyno rhyngwyneb greddfol, sydd yn ei wneud yn system glyfar ag hyblyg sydd yn hawdd eu gosod a defnyddio hefyd. Rydym wedi cyflwyno gwefru diwifr i dynnu’r risg efo ceblau a chysylltiadau gwefru ac mae’r casin yn gwrthsefyll sblash i leihau’r risg o ddifrod dŵr

Mae’r Notifier wedi eu treialu efo nifer o gwsmeriaid â’u ddefnyddwyr, mewn nifer o amgylchiadau gwahanol dros yr 18 mis diwethaf, ac mae wedi eu haddasu a gwellau o’r adborth rydym wedi derbyn. Rydym yn angerddol am ddatblygu offer a noddion sydd wirioneddol eu hangen. 

Rydym yn gwmni sy’n canolbwyntio ar unigolion sydd eisiau gwrando ar anghenion ein cwsmeriaid a’i ddefnyddwyr, a datblygu offer mewn partneriaeth efo nhw’i gyd. Rydym yn credu fod dewis yn bwysig i bawb, a bod yr Notifier a’i gallu i bersonoli, yn creu llawer mwy o ddewis. Mi fydd y Notifier yn rhoi’r cyfle i fwy o deuluoedd fod yn fwy annibynnol, gyda’r sicrwydd fydd ganolfannau fonitro yn gallu rhoi cymorth iddynt pan fydd angen. Mewn gosodiadau mwy ffurfiol, rydym yn hyderus ein bod wedi dylunio rhywbeth a ellir eu cyflwyno i gefnogi gofal, heb yr angen am systemau cymhleth, drud. Mae’r datblygiad yma wedi bod gyda’r bobl fydd yn defnyddio ein hoffer yn ddyddiol, a nhw sydd wedi bod ein partneriaid i ddylunio’r nodweddion arloesol yma. 

Mae’r cwsmeriaid sydd wedi profi ac yn parhau i werthuso’r ddyfais, yn arddangosiad ein bod wedi gallu creu beth sydd wedi bod ar goll. I ffeindio allan eich hun, cysylltwch â ni heddiw. 

Notifier | Cair UK (we-cair.com)

Diwedd.