Detect

Synhwyrydd Deiliadaeth/Enwresis

Mae’r Cair Detect syml ond clyfar yn caniatáu monitro deiliadaeth gwelyau/chadeiriau ac enwresis, i gyd mewn un uned! Wedi’i ddylunio i fod yn hawdd eu defnyddio, gall y Detect ddarparu arwydd gweledol a chlywadwy ar gyfer sicrwydd ychwanegol i ddefnyddwyr a gofalwyr.

Mae’n llawn dop o nodweddion gan gynnwys ‘canslo ar yr uned’ a chydnawsedd synhwyrydd ‘virtual’. Mae gan y Detect hefyd opsiynau amser absenoldeb, yn amrywio o 0.5 eiliad i 30 munud.

I helpu gosodwr, gellir trefnu y Detect yn hawdd gan ddefnyddio’r deial sydd yn syml i’w ddefnyddio. Mae yna dau fewnbwn terfynell RJ12 er mwyn cysylltu fwy o synhwyryddion.

Gellir defnyddio’r Detect i fonitro deiliadaeth cadair neu wely. Defnyddiwch gyda’n pad Sit/Sleep i gael y canlyniadau gorau.

Mae gan Detect bellter gweithio hyd at 600m, a batri gyda oes waith o 3 mlynedd.

Er mwyn canfod gwlychu, fel anymataliaeth, cysylltwch â’n mat Enuresis am ein datrysiad llawn.

  • Botwm ymlaen/i ffwrdd hawdd ei ddefnyddio
  • Gall mewnbynnau weithio gyda’i gilydd neu ar wahân
  • Opsiwn canslo ar yr uned
  • Opsiwn sain
  • Arwydd LED
  • Hawdd i’w ffurfweddu
  • Pellter gweithio hyd at 600m

O’r Newyddion

Er Cof am Christine

Er Cof am Christine

It is with great sadness that we share the news of the passing of our dear colleague and friend, Christine. Christine was truly at the heart of our Cair family. Over her remarkable 15 years with us,...