“Gwyliwch, Dysgwch, Gosodwch: Tiwtorialau Fideo Cair Cam-wrth-Gam”

08/07/25

Yn Cair, rydym yn gwybod bod pawb yn dysgu ychydig yn wahanol. Mae gwell gan rhai canllaw cam wrth gam, tra bod eraill eisiau gweld sut mae’n cael ei wneud. Dyna pam rydym yn creu cyfres o fideos i gefnogi ein cymhwysedd cynnyrch; o raglennu ein synwyryddion i awgrymiadau syml ond defnyddiol fel newid batri neu newid opsiynau gwisgo. https://www.youtube.com/@cairuk5265

Mae’r fideos wedi’u cynllunio i fod yn syml, yn weledol, ac yn ymarferol; 

canllawiau y gallwch ddilyn, stopio pan fo angen, a mynd yn ôl at unrhyw adeg. Tra bod ein canllawiau rhaglennu’n cynnig pob manylyn technegol, mae ein fideos yn anelu i gynnig mwy o gamau gweledol a theimlad mwy clir o beth i’w wneud a sut mae popeth yn cyd-fynd. Rydym hefyd wedi creu Canllawiau Cyfeirio Cyflym ar gyfer llawer o’n cynhyrchion. Canllawiau byr, cyflym sy’n gwneud hi’n hawdd cael y wybodaeth sydd angen, o osod rhywbeth newydd neu eisiau atgoffa’ch hyn yn gyflym.

Hyd yn hyn, rydym wedi adeiladu llyfrgell o tua 30 fideo, a digon fwy i ddod. Yn y cefndir, dydy hi ddim bob amser yn job hawdd! Rydym wedi cael ein siâr o gamgymeriadau: fel sylweddoli bod smotyn ar y lens ar ôl gorffen ffilmio, neu gael cnoc ar y drws yn ystod recordio gartref! Ond rydym yn rhoi llawer o gariad i bob fideo oherwydd ein bod eisiau gwneud bywyd yn haws i’r bobl sy’n defnyddio ein cynnyrch, o osodwyr, staff gofal, gofalwyr a’r defnyddwyr.

Mae’r fideos hyn yn cael eu siapio gan adborth go iawn gan bobl fel chi, felly os oes rhywbeth hoffech ei weld, gadewch i ni wybod. Rydym yn gwrando, ac yn ffilmio!

Diwedd