Atebion Amgylcheddol
Yn creu amgylcheddau mwy diogel ble bynnag y mae rhywun yn galw cartref.
Mae ein hatebion teleofal amgylcheddol wedi’u cynllunio i ddiogelu pobl a’r amgylcheddau maent yn byw ynddynt. Trwy ddefnyddio ystod o synwyryddion amgylcheddol, gan gynnwys monitro mwg, tymheredd, carbon monocsid a lleithder, gellir adnabod risgiau’n gynnar i helpu i atal niwed.
Gellir cysylltu’r synwyryddion hyn â’r Notifier, y Vibe, neu system dderbyn gydnaws ar gyfer monitro allanol, gan sicrhau bod rhybuddion yn cael eu gweithredu’n brydlon. Mae hyn yn cefnogi byw’n ddiogel ar draws ystod eang o amgylcheddau, o gartrefi preifat i leoliadau â chymorth.
Archwiliwch ein hatebion monitro amgylcheddol isod i weld sut mae technoleg Cair yn helpu i greu lleoedd mwy diogel.

Climate
Synhwyrydd Tymheredd
Mae’r Climate yn synhwyrydd tymheredd a lleithder i gyd mewn un.
Gall ganfod tymheredd uchel ac isel, cynnydd cyflym mewn tymheredd, a lefelau uchel ac isel o leithder.

Smoke+
Larwm Mwg
Mae’r Smoke+ yn synhwyrydd mwg deallus, cynnil a chysylltiedig. Gellir ei raglenni’n hawdd cysylltu â synwyryddion Smoke+ neu Heat+ eraill, gan sicrhau bod pob dyfais gysylltiedig yn rhoi rhybudd pan fo angen.

CO
Canfod Monocsid Carbon
Mae’r larwm CO yn uned gynnil a cryno a fydd yn darparu’r rhybudd cynnar bosibl o lefelau niweidiol o Fonocsid Carbon.

Heat+
Larwm Gwres
Mae’r larwm Heat+ yn uned gynnil a chysylltiedig, wedi’i chynllunio’n benodol ar gyfer achosion lle na fyddai larwm mwg yn addas, fel cegin, garej a mannau llawn llwch.

Flood
Synhwyrydd Llifogydd
Mae’r Flood yn ateb lluniaidd a chynnil ar gyfer canfod llifogydd a gollyngiadau dŵr.
Gwydn i ddŵr (IP67), gellir ei ddefnyddio dro ar ôl tro.
