CairWear
Larwm Personol Haptig
Larwm personol modern, cynnil wedi’i gynllunio ar gyfer bywyd bob dydd
Mae’r CairWear yn larwm personol haptig nad yw’n stigmateiddio, wedi’i gynllunio i gefnogi diogelwch, annibyniaeth a thawelwch meddwl yn y cartref ac mewn amgylcheddau â chymorth.
Yn gyfforddus ac yn gynnil, gellir gwisgo’r CairWear ar yr arddwrn neu o amgylch y gwddf, gan alluogi pobl i symud o gwmpas eu cartref gyda hyder, gan wybod bod help bob amser ar gael os oes ei angen.
Wrth galon y ddyfais mae botwm galw llaw gyffyrddol, sy’n ei gwneud yn syml ac yn reddfol i godi rhybudd mewn achos o gwymp, pryder neu argyfwng. Unwaith y caiff ei actifadu, mae’r unigolyn yn derbyn adborth haptig cysurlon drwy ddirgryniad ysgafn, ynghyd â dangosydd LED gynnil, gan gadarnhau bod eu galwad wedi’i hanfon yn llwyddiannus.
Wedi’i gynllunio i’w wisgo gyda hyder
Mae’r CairWear wedi’i ddylunio’n ofalus i deimlo fel larwm personol modern yn hytrach na phendant teleofal traddodiadol, gan helpu i leihau stigma ac annog defnydd cyson.
Mae ei ddyluniad ysgafn a chyfforddus yn addas ar gyfer gwisgo bob dydd, gyda dewisiadau gwisgo hyblyg i weddu i wahanol ddewisiadau ac anghenion. Gellir gwisgo’r ddyfais naill ai o amgylch y gwddf neu ar yr arddwrn, gyda dewis o strapiau arddwrn elastig neu silicon i ddarparu cysur a gwydnwch.
I unigolion sydd yn ffeindio fo’n anodd pwyso botymau llai neu sy’n gwisgo dillad mwy trwchus, mae ategolyn “hawdd ei wasgu” i’w wisgo ar gael hefyd, gan helpu i sicrhau bod y botwm galw yn parhau’n hawdd ei actifadu pryd bynnag y bydd angen cymorth.
Wedi’i adeiladu ar gyfer dibynadwyedd bob dydd
Mae’r CairWear wedi’i beiriannu i ddarparu tawelwch meddwl dibynadwy mewn amgylcheddau bob dydd. Mae’r ddyfais yn cynnwys batri y gellir ei ailosod gyda bywyd batri hyd at bum mlynedd, gan helpu i leihau’r angen am waith cynnal a chadw wrth gefnogi darpariaeth gwasanaeth hirdymor.
Wedi’i dylunio gyda defnydd go iawn mewn golwg, mae’r CairWear hefyd yn dal dŵr i safon IP67, sy’n golygu y gellir ei wisgo’n hyderus drwy gydol y dydd, gan gynnwys mewn amgylcheddau lle gall fod amlygiad i ddŵr.
Beth ydym ni yn ei ddweud
“We’re proud to introduce the CairWear, thoughtfully designed to be a discreet wearable delivering confidence, comfort and dependable emergency support.
O’r Newyddion
Tri Theulu Go Iawn. Tair Stori Go Iawn. Un Ateb Pwerus.
Tri Theulu Go Iawn. Tair Stori Go Iawn. Un Ateb Pwerus. Yn Cair, rydym yn gwybod bod diogelwch yn y cartref yn golygu mwy na thechnoleg yn unig, mae’n golygu hyder, tawelwch meddwl a’r rhyddid i...
Cau Lawr Dros y Nadolig 2025
Bydd ein swyddfeydd yn cau am 5pm ar 23ain o Ragfyr ac fe ddychwelwn ar 5ed o Ionawr 2026. Ein dyddiad cludo olaf cyn cau bydd 23ain o Ragfyr; bydd unrhyw archebion a dderbynnir ar ôl 22ain o Ragfyr...
Cyflwyno’r Pill+: Rheolaeth Meddyginiaeth Glyfar ag Mwy Cefnogol
Ers blynyddoedd, mae’r Pill (dosbarthwr bilsen Piovtell Advanced) wedi bod yn rhan ymddiriedus o’n hystod cynnyrch, gan helpu unigolion i gymryd eu meddyginiaeth yn ddiogel ac ar yr amser cywir....



