Maen nhw’n dweud fod ‘hindsight yn 2020’, er ychydig ohonom ni allai fod wedi rhagweld beth fyddai’n digwydd yn y flwyddyn 2020.
Roeddwn yn ddigon ffodus i deithio ar ddechrau’r flwyddyn honno; ar y 25ain o Ionawr, fel yr oeddwn yn paratoi fy hun i ddod adref, cefais neges gan fy mam. Roedd yn darllen “Gweld a fedri di gael rhywfaint o gel llaw, a masgiau papur ar gyfer yr awyren. Cofio gwisgo dy sbectol yn hytrach na dy contacts. Amddiffyn dy hun rhag risg y coronafirws erchyll yma!”. Fy ateb yn syml oedd “beth yw’r coronafirws?” a chyda hynny oedd y daith yn dod i ben ag yr oeddwn yn edrych ymlaen at ddechrau fy rôl newydd gyda Cair pan oeddwn gartref.
Yn sicr mae gan Teleofal fy nghalon, wedi dod ar draws galluoedd larwm personol syml yn ystod fy nghyfnod yn ateb galwadau 999 i’r heddlu. Pan ddaeth y cyfle i gydlynu gwasanaeth Teleofal ar gyfer fy awdurdod lleol, fe wnes i gydio ynddo â’r ddwy law. Rhoddodd y rôl hon flas i mi o bopeth am y gwasanaeth, o asesu i osod, a roddodd gyfle i mi wrando ar yr hyn yr oedd wirioneddol ei angen ar bobl i sicrhau gwasanaeth sydd yn canolbwyntio ar yr unigolyn. Roedd Cair wedi cael ei sefydlu am 7 mlynedd yn 2020, ac yn barod yn creu offer a fyddai wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r bobl y bûm yn gweithio gyda nhw yn y dyddiau cynnar hynny, ac oedd y portffolio yn tyfu i wneud gwahaniaeth ym mywydau llawer mwy.
Roedd cael rôl y Rheolwr Cyfrif Rhanbarthol mor gyffrous ac ni allwn ddisgwyl am y flwyddyn i ddod. Roedd yr offer a lansiwyd yn arloesol, craff, ymatebodd i heriau yr oedd cwsmeriaid yn eu hwynebu bob dydd ac roeddent yn edrych yn grêt hefyd. Ni allwn aros i fynd allan i gwrdd â phobl a chyflwyno ein hoffer, i helpu mwy o bobl i deimlo yn annibynnol, i ganiatáu i fwy o bobl barhau i fyw gartref, er mwyn caniatáu i fwy o ofalwyr gael amser gwerthfawr gyda’u hanwyliaid, i helpu i wneud mwy o wahaniaethau.
Roedd heriau eleni yn golygu bod angen gwneud pethau ychydig yn wahanol: byddai digwyddiadau’n cael eu canslo, byddai gweithio o gartref yn dod yn orfodol, yn treulio llai o amser ar y lon. Mae fy rôl wedi bod yn wahanol iawn i’r hyn yr oeddwn yn ei ddisgwyl. Mae Cair yn gwmni mor gynhwysol, ac mae pob tîm yn ymwneud â phob darn o’r busnes, sydd i mi yn bersonol wedi caniatáu imi ymwneud â rhai darnau o waith ysbrydoledig, creadigol a hwyliog iawn. Ynghyd â chydweithwyr eraill, rwyf wedi cyfrannu at lansio gwefan newydd sbon, rwyf wedi mewnbynnu i ddylunio offer newydd, rwyf wedi helpu i ysgrifennu tendrau, arwain ar farchnata a chyfryngau cymdeithasol, creu fideos, canllawiau ysgrifenedig, cyfieithu dogfennau, llawer ohonyn nhw. Rwyf wedi cwrdd â chydweithwyr a chwsmeriaid o bell ac wedi creu perthnasoedd newydd. Rwyf wedi cael fy annog i dreulio amser yn gwrando ar yr hyn sydd wirioneddol ei angen ar bobl a sut y gallwn wella, ac rwyf wedi cael cyfle i weld y newidiadau hynny’n digwydd. Rwyf wedi gweld, er gwaethaf popeth, bod ein hoffer wedi gallu caniatáu i fwy o bobl barhau i fyw gartref, i fwy o ofalwyr gael amser gwerthfawr gyda’u hanwyliaid, wedi wneud mwy o wahaniaethau.
Maen nhw’n dweud fod ‘hindsight yn 2020’, wrth edrych yn ôl ar eleni, rwy’n falch fy mod wedi cael cyfle i fod yn rhan o dîm sydd bob amser yn gweithio tuag at wneud dyfodol gwell i lawer mwy o bobl.
Diwedd.