Swydd: Rheolwr Cynhyrchu

Lleoliad: Halifax
Rydym yn chwilio am Rheolwr Cynhyrchu ardderchog i ymuno efo’n hadran Cynhyrchu. Mae synnwyr cyffredin, angerdd a gwaith tîm yn hanfodol i lwyddiant yn y rôl hon. Yn ddelfrydol, mi fydd gennych gefndir gweithgynhyrchu electroneg efo profiad o arwain tîm. Mi fydd yr ymgeisydd llwyddiannus efo dull arweinyddiaeth bragmatig ag cydweithredol, efo ffocws ar ansawdd a gwelliant parhaus.

Dyletswyddau a chyfrifoldebau

  • Yn gyfrifol am gynhyrchu a chynllunio gweithrediadau dyddiol
  • Cynllunio, amserlennu ag adolygu llwyth gwaith ag adnoddau i sicrhau fod targedau yn cael eu cyrraedd mewn ffordd gost-effeithiol
  • Dilyn i fynnu ymyraethau i archebion
  • Sicrhau fod lefel uchel o wasanaeth cwsmer yn cael eu cynnal
  • Yn gyfrifol am sicrhau fod offer newydd yn cyfarfod y dyluniad am weithgynhyrchu
  • Dreifio effeithlonrwydd a gwelliant parhaus
  • Gweithio yn agos efo adrannau eraill
  • Sicrhau fod rheolaethau cynhyrchu addas a ddigonol yn cael eu nodi a’i weithredu
  • Yn gyfrifol am greu ag diweddaru cyfarwyddiadau adeiladu fel y bydd angen
  • Arwain, rheoli a chymell y tîm
  • Cydlynu hyfforddiant a datblygiadau’r tîm i wneud y mwyaf i alluoedd
  • Sicrhau fod KPI’s wedi eu gosod ag yn cael eu cyflawni i gyfarfod anghenion y busnes
  • Yn gyfrifol am goladu, cynhyrchu a lledaenu’r data perthnasol ac adroddiadau ystadegol fel y bydd angen
  • Mynychu a chyflwyno mewn cyfarfodydd, gan gynnwys briffiau tîm rheolaidd
  • Sicrhau amgylchedd gweithio positif drwy hyrwyddo cyfathrebu agored ag dynesiad ‘alla’i wneud’ positif
  • Fel perchennog proses, sefydlu, monitro a chynnal systemau a gweithdrefnau cynhyrchu i gyfarfod safonau ISO am Ansawdd, Diogelwch a’r Amgylchedd
  • Unrhyw ddyletswyddau arall ag bydd angen
Amcanion Allweddol
  • Sicrhau fod cynnyrch yn cael eu cynhyrchu yn gywir y tro cyntaf i gyfarfod anghenion y cwsmer
  • Sicrhau fod y cynnyrch ar gael 99% or amser
    Chwilio am gyfleoedd am welliant parhaus â’u hyrwyddo
  • Arweinyddiaeth tîm effeithiol

Beth rydyn ni’n ei gynnig

  • Oriau gweithio 37.5 awr dros 4 diwrnod
  • Hawl gwyliau
  • Ymrestru pensiwn yn awtomatig
  • Amgylchedd gwaith mawr, modern gyda pharcio am ddim a phwyntiau gwefru trydanol

Gwnewch gais ar-lein