Vibe

Ateb Nam Synhwyraidd

Mae’r Vibe yn ddyfais DDA i gyd mewn un. Mae’r cymorth gweledol a clywadwy yn rhybuddio pobl efo nam synhwyraidd ag anghenion arall fod larwm neu synhwyrydd cysylltiedig wedi cael eu hactifadu. Wedi eu dylunio i ffitio i mewn i’ch ffordd o fyw efo un bocs taclus sydd yn wneud pob dim: rhybuddion ag atgofion clywadwy, gweledol a dirgrynu gobennydd.

 

Efo 5 eicon LED, mae’n hawdd gweld pa fath o rybudd sydd wedi eu derbyn. Gydag eiconau tân a nwy pwrpasol, mae yna hefyd 3 lleoliad arall.

Drwy ddefnyddio’r rhyngwyneb rhaglennu unigryw wedi eu harwain drwy lais, mae’n bosib eu gosod mewn munudau heb ddim offer ychwanegol.

 

Mae’r Vibe yn gweithio efo amrywiaeth o synwyryddion gan gynnwys ein cysylltiadau drws/ffenestr, matiau llawr, dyfeisiau deiliadaeth gwely, synwyryddion symud, synwyryddion meddyginiaeth a gymaint mwy

Mae’n bosib ffurfweddu’r Vibe i siwtio’r unigolyn, gyda’r gallu i gyfuno rhybuddion strôb, clywadwy a llais. Wedi cysylltu i’r prif bŵer, gyda batri wrth gefn 24 awr, mae’r defnyddwyr efo’r sicrwydd fod y Vibe o hyd ymlaen.

Mi fydd y Vibe yn rhybuddio’r defnyddwyr fod synhwyrydd amgylchedd wedi actifadu, a hefyd gallu cefnogi gofalwyr gyda nam synhwyraidd, fel eu bod yn cael eu rhybuddio pan fydd synhwyrydd teleofal wedi cael eu hactifadu. Mae’r botwm mawr yn golygu eu bod yn hawdd cydnabod y larwm.

Ar gael ar nifer o brotocolau i ffitio fewn efo’ch system bresennol.

From the News

Cau Lawr Dros y Nadolig 2023

Cau Lawr Dros y Nadolig 2023

Cau Lawr Dros y Nadolig – 21 Rhagfyr i 2 Ionawr Mae o wedi bod yn flwyddyn brysur arall i Cair gan ein bod wedi bod yn dathlu ein penblwydd yn 10 oed ag yn lansio nifer o offer newydd. O'r 21ain o...

Seibiannau Byr ‘The Trees’

Seibiannau Byr ‘The Trees’

Mae seibiannau byr 'The Trees' yn wasanaeth gofal 12 ystafell sydd yn rhoi cymorth i oedolion efo anableddau dysgu yn gymuned Hinckley yn Swydd GaerlÅ·r. Yn Dachwedd 2020 gafodd yr adeilad eu...