Ailgylchu i Ein Cwsmeriaid am Ddim

03/02/22

Fel rhan o’n hymrwymiad i fod yn ffeind i’r amgylchedd mi rydym hefyd yn angerddol am ddylanwadu ein cwsmeriaid i wneud yr un peth.

Pan fydd uned yn cyrraedd ‘diwedd eu bywyd’, gallwn ailgylchu’r cynnyrch i chi am ddim. Mae’r proses yn hawdd, ffoniwch 01422 399155, e-bostiwch hello@we-cair.com neu cysylltwch efo eich Rheolwr Cyfrif yn uniongyrchol. Unwaith yr ydym wedi derbyn y cais ailgylchu, mi fydd ein tîm yn creu rhif dychwelyd i chi er mwyn i chi cael gyrru’r offer i’r adran ailgylchu.

Pan fyddent wedi derbyn yr unedau sydd wedi dod i ddiwedd eu bywyd, mi fydd ein tîm yn cymryd y defnyddiau o’i gilydd a gwahanu unrhyw blastig, mhetal, electroneg a batris. Mi fydd y rhain yn cael eu storio yn ein hardal ailgylchu tan fydd yna nifer digon i gyfiawnhau fan fawr i’w gasglu. Mi fyddent yn defnyddio cwmnïau allanol i gymryd yr eitemau i’w ailddefnyddio neu ailgylchu wrth ddilyn canllawiau llywodraethau lleol.

Felly ymunwch efo ein cenhadaeth i wneud gwahaniaethau bach ar gyfer byd gwell a chysylltwch â ni pan na ellir parhau defnyddio eich offer.

Diwedd.