Diwrnod ym mywyd Peiriannydd Datblygu

14/09/20

Rydyn wedi bachu ar y cyfle i holi Tom, un o’n Peiriannydd Datblygu ar ei rôl, sut y gellir defnyddio codio i greu sŵ a sut mae’n gwneud i’r byd fynd o gwmpas

Beth yw eich rôl?

Rwy’n beiriannydd caledwedd/dylunio electroneg. Rwy’n gwneud ac yn dylunio cylchedau electronig sy’n cael eu defnyddio mewn cynhyrchion Cair. 

 Beth yw diwrnod arferol?

Cymysgedd o ddylunio caledwedd, dylunio datrysiadau prawf ar gyfer y caledwedd, dogfennaeth, ysgrifennu rhywfaint o feddalwedd, a thrafod gyda pheirianwyr eraill a’n Dylunydd Cynnyrch Neil i weithio allan atebion da i’r problemau sydd gennym. 

Pryd wnaethoch chi ddechrau ymwneud â chodio?

Tua 8 oed. Dechreuais ar Commodore 64, yna es draw i Windows 3.1 / Windows 95 PC. Roeddwn i’n ysgrifennu “meddalwedd gwir” tua 11-12 oed ac ysgrifennais fy ngêm ar-lein gyntaf (sŵ ar gyfer ymlusgiaid, peidiwch â gofyn!) pan oeddwn i tua 13 neu 14 oed.

Pam mae codio yn bwysig i’r hyn rydych chi’n ei wneud?

Dim tanamcangyfrif yma, ond nid oes bron dim yn bosibl yn y byd modern hwn heb god. Dyna mae’r byd yn rhedeg arno. (Hynny, ac arian!)

Beth hoffech chi i eraill ei wybod am godio? 

Mae fel croesair boddhaol iawn. Mae datrys problem a chael rhaglen i weithio am y tro cyntaf yn bleserus – ac rydych chi’n cael eich talu i’w gwneud! Ddim yn rhy ddrwg, eh?

Diwedd.