Beth rydyn ni’n ei wneud

Cair: Yn darparu gofal dros yr awyr. Credwn y gellir gwella bywydau pawb trwy atebion arloesol a dyluniad gwell. Dyna pam rydym yn ymfalchïo mewn creu teleofal a thechnolegau clyfar y byddem ni i gyd eu heisiau yn ein cartrefi. Dyluniwyd ein technoleg gydag ystyried pawb, a’n nod yw creu atebion sy’n gynhwysol a gwella ansawdd bywyd; rydym eisiau wneud gwahaniaeth ym mywydau pawb sy’n defnyddio ein hoffer. Gan barhau i ymdrechu i wella’r dyfodol, mae ein tîm talentog a chreadigol yn gweithio’n agos gyda’n cwsmeriaid i greu’r atebion sydd eu gwir angen, wedi’u hysgogi gan ofal am bobl a’r amgylchedd… a paned o de neu ddwy o Swydd Efrog.

Ethos ein Rheolwr-Gyfarwyddwr
 

“Design the product for your loved ones, your nearest and dearest.”

Wedi’i wneud yn Swydd Efrog

Mae hynny’n gywir! Mae ein holl gynhyrchion yn cael eu dylunio, eu datblygu a’u cynhyrchu yn Halifax. Mae ein cyfleuster gweithgynhyrchu modern mewn lleoliad delfrydol ger yr M62 yng nghanol y DU, i wasanaethu ein cwsmeriaid ble bynnag y byddwch. Mae’r tegell ymlaen bob amser, felly os hoffech chi drefnu taith i’r ffatri cliciwch yma.

Gofalu amdanom ni i gyd

Mae gofalu am yr amgylchedd yn bwysig iawn i bob un ohonom yn Cair. Rydym yn cymryd nifer o gamau i leihau ein hôl troed carbon a gwella ein perfformiad amgylcheddol. Rydym yn ymdrechu i gael gwared ar BOB plastig yn ein pecynnau wrth sicrhau bod ein dyfeisiau wedi’u cynllunio ar gyfer dadosod yn hawdd a bod deunyddiau ailgylchadwy yn cael eu defnyddio lle bynnag y bo modd. Rydym hyd yn oed wedi creu cynhyrchion glanhau ein hunain sydd yn ffeind i’r amgylchedd, sy’n cael eu defnyddio ar draws y safle. Yn wir i’n hethos, rydym hefyd wedi gosod 4 gorsaf gwefru ceir trydan yr ydym yn annog ein staff a’n hymwelwyr i’w defnyddio. Mae gennym hefyd baneli solar 50kw ar dô ein ffatri, sy’n gallu cyflenwi rhai anghenion ein ffatri, gan ddileu ein galw ar y grid cenedlaethol.

Cwrdd â rhai o’n tîm

Mae pob un o’n cydweithwyr yn chwarae rhan mewn llunio’r dyfodol. Dewch i adnabod ychydig mwy amdanyn nhw heddiw….

Fred

Cydosodwr Electroneg

Pryd wnaethoch chi ymuno? Mis Hydref 2014


Pam Cair? Cyfrannu at fy nghymuned


Hoff hobi: Pysgota


Fy nyfyniad bywyd: Bywyd yw beth sy'n digwydd pan fyddwch chi'n prysur wneud cynlluniau


Talent gudd: Chwaraewr gwyddbwyll yn dda

Sean

Datblygwr Systemau Busnes

Pryd wnaethoch chi ymuno? Mis Chwefror 2009


Pam Cair? Mae pob diwrnod yn sialens ddiddorol


Hoff ffilm: Blade Runner


Cyngerdd cyntaf erioed: Animal Kwackers


Y bwyd mwyaf rhyfeddaf dwi erioed wedi ei fwyta: Coesau brogaod

Wendy

Cydosodwr Electroneg

Pryd wnaethoch chi ymuno? Mis Tachwedd 2008


Pam Cair? Rwy'n hoffi'r cynhyrchion rydyn ni'n eu cynhyrchu ac rwy'n hoffi fy nghydweithwyr


Fy nyfyniad bywyd: Paid â phoeni, bydda'n hapus


Hoff chwaraeon: Roeddwn i wrth fy modd yn rhedeg ond ni allaf ei wneud nawr


Cyngerdd cyntaf erioed: Donny Osmond

Patryk

Arweinydd Llinell Cynhyrchu

Pryd wnaethoch chi ymuno? Mis Ionawr 2013


Pam Cair? Achos dwi'n hoffi be rydym ni'n ei wneud


Hoff gaws: Cheddar garlleg


Hoff ffilm: Lord of the Rings


Lle ffuglennol hoffwn ymweld: The Kingdom of Far Far Away (Shrek)

Lowri

Rheolwr Cyfrif Rhanbarthol

Pryd wnaethoch chi ymuno? Mis Chwefror 2020


Pam Cair? Mae pawb eisiau wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl


Hoff ffilm: Billy Elliot


Hoff chwaraeon: Rhedeg


Talent cudd: Gwneud wyau 'scotch'

Aldona

Gweithredwr Cynhyrchu

Pryd wnaethoch chi ymuno? Chwefror 2024


Pam Cair? Mi wnes i weithio allan roeddwn i'n ei hoffi


Byddai fy nghydweithwyr yn fy nisgrifio fe: Gwenu, positif


Fy nyfyniad bywyd: Peidiwch byth â rhoi'r gorau iddi


Hoff chwaraeon : Rhedeg

Steven

Peiriannydd Cynnyrch

Pryd wnaethoch chi ymuno? Mis Ionawr 2014

Pam Cair? Rwy'n hoffi gweithio yma. Rwy'n hoffi be rwyf yn wneud

Hoff hobi: Ysgrifennu caneuon

Cyngerdd cyntaf: Rolling Stones, 'Free Trade Hall' Maincenion

Y bwyd mwyaf rhyfeddaf dwi erioed wedi ei fwyta: Gwlithen y môr

Phil

Datblygwr Meddalwedd

Pryd wnaethoch chi ymuno? Mis Gorffennaf 2017


Pam Cair? Diddorol, heriol ac mae'n cynnwys technolegau newydd


Hoff gaws: Stilton gwyn gyda bricyll


Fy nyfyniad bywyd : Os yw rhywbeth yn werth ei gwneud, mae'n werth ei gwneud yn dda, felly gwnewch o eich hun


Talent gudd: Plastro

Neil

Arweinydd Dylunio Diwydiannol

Pryd wnaethoch chi ymuno? Mis Ionawr 2017


Pam Cair? Yr her o greu atebion arloesol ar gyfer marchnad deilwng


Dwi'n fwyaf tebygol o: Gweld y ddwy ochr


Hoff ffilm: Drive


Y bwyd mwyaf rhyfeddaf dwi erioed wedi ei fwyta: Fe wnaeth fy mab gwneud i mi i drio Wotsits mewn iogwrt .... Dwi ddim yn i argymell!

Neil J

Rheolwr Gweithrediadau

Pryd wnaethoch chi ymuno? Ebrill 2022


Pam Cair? Mae'r cwmni efo moeseg, pobl wych ag yn meddwl ymlaen


Rwyf mwyaf tebyg i: Sefyll allan mewn grŵp


Hoff lyfr: Legend gan David Gemmell


Cyngerdd gyntaf: Bruce Springsteen yn stadiwm Gateshead 1985

Robert

Gweithiwr Warws

Pryd wnaethoch chi ymuno? Ebrill 2023


Pam Cair: Rwy’n hoffi fod y cwmni yn creu offer sydd yn helpu pobl!


Hoff gaws: Camembert


Hoff ffilm: The Great Escape


Hoff chwaraeon: Pel droed

Sue

Cynorthwyydd Cyfrifon

Pryd wnaethoch chi ymuno? Mis Chwefror 2024


Pam Cair: Creu offer i helpu pobl ac mae pawb mor gyfeillgar a chymwynasgar


Hoff ffilm: Indiana Jones & The Temple of Doom


Fy nyfyniad bywyd: Peidiwch ddisgwyl tan fory i wneud be fedrwch chi wneud heddiw


Cyngerdd gyntaf: Take That

Melanie

Cydosodwr Electroneg a SMD

Pryd wnaethoch chi ymuno? Mis Ebrill 2012


Pam Cair? Mae'n lle da i weithio, mae ganddo awyrgylch da


Fy nyfyniad bywyd: Mae bob dim yn digwydd am reswm


Hoff lyfr: The Girl from Barefoot House gan Maureen Lee


Lle ffuglennol y byddwn yn hoffi ymweld: Alfheim

Malcolm

Peiriannydd Cymorth Technegol

Pryd wnaethoch chi ymuno? Mis Mawrth 2007


Pam Cair? Dwi'n mwynhau'r gwaith


Byddai fy nghydweithwyr yn fy nisgrifio fel: Dewin


Dwi'n fwyaf tebygol o: Bod mewn modd diagnostig


Lle ffuglennol y byddwn yn hoffi ymweld: Babylon 5

Tipu

Rheolwr Cadwyn Gyflenwi

Pryd wnaethoch chi ymuno? Mis Mehefin 2013


Pam Cair? Ar gyfer fy nyfodol


Hoff ffilm: Shaun of the Dead


Fy nyfyniad bywyd: Canolbwyntiwch arnoch chi'ch hun ac nid ar farn eraill


Y bwyd mwyaf rhyfeddaf dwi erioed wedi ei fwyta: Byrgyr gyda bynsen binc

Inger

Rheoli Ansawdd

Pryd wnaethoch chi ymuno? Mis Mai 2018


Pam Cair? Moeseg wych, pobl gyfeillgar ac wrth fy modd ddim yn gweithio ar Ddydd Gwener


Hoff lyfr: The Stand


Cyngerdd cyntaf erioed: Diana Ross


Y bwyd mwyaf rhyfeddaf dwi erioed wedi ei fwyta: Brechdan banana a chiwcymbr neu frechdan saws wy a mintys wedi'i ffrio

Mohammed

Rheolwr-Gyfarwyddwr

Pryd wnaethoch chi ymuno? O’r cychwyn!


Pam Cair? Mae o'n dilyn mi bobman!


Dwi'n fwyaf tebygol o: Yfed te a chnoi byrbryd


Fy nghyflawniad balchaf: Gallu cynnig cyflogaeth i'm cyd-ddinasyddion


Talent gudd: Ieithoedd tramor

Kasia

Cydosodwr Electroneg

Pryd wnaethoch chi ymuno? Mis Mai 2018


Pam Cair?: Rwy'n hoffi gweithio yma, oherwydd bod pobl yn neis iawn,ac mae'r awyrgylch yn hyfryd


Hoff ffilm: A Desert Flower


Hoff hobi: Pobi a choginio dwi wrth fy modd

Sandra

Gweinyddwr Cyfrifon

Pryd wnaethoch chi ymuno? Mis Ebrill 2016


Pam Cair? Mae'n lleol, mae ganddo awyrgylch gyfeillgar


Hoff gaws: ‘Cheesecake’


Hoff hobi: Achyddiaeth


Cyngerdd cyntaf erioed: Meatloaf

Celia

Gweithredwr Cynhyrchu

Pryd wnaethoch chi ymuno? Mis Medi 2013


Pam Cair? Cwmni da iawn i weithio i


Fy nyfyniad bywyd: Nid yw oed yn dod ar ei ben ei hu


Hoff chwaraeon: Rygbi'r Gynghrair


Cyngerdd cyntaf erioed: Hot Chocolate

Alison

Rheolwr Cyffredinol

Pryd wnaethoch chi ymuno? Mis Hydref 2015


Pam Cair? Mae'n gwmni braf gyda phobl wych, a be rydym yn ei wneud i helpu eraill


Hoff gaws: Manchengo


Hoff chwaraeon: Undeb Rygbi


Lle ffuglennol y byddwn yn hoffi ymweld: Yr Shire

Marie

Cynorthwyydd Gweinyddol

Pryd wnaethoch chi ymuno? Mis Medi 2023


Pam Cair? Cwmni da, pobl gyfeillgar, offer gwych


Hoff gaws: Garlleg a chaws


Fy nyfyniad bywyd: Yr unig siwrnai amhosib yw'r un sydd byth yn cael eu cychwyn


Cyngerdd cyntaf erioed: Tears for Fears

Tystysgrifau

Rydym yn gwybod, yn ogystal â chynhyrchu cynhyrchion arloesol, cyffrous, na fyddai’n golygu dim heb y safonau cywir i sicrhau bod pob un o’n cynhyrchion yn ddiogel ac yn gadarn, felly rydym yn falch iawn o ddangos y rhain i ffwrdd….

“Rydyn ni’n falch bod y system reoli rydyn ni’n ei defnyddio ar gyfer ochr gweithrediadau ein busnes wedi’i hardystio i dair safon ISO gan ‘Centre for Assessment’, corff ardystio achrededig UKAS: ‘ISO 9001:2015 Quality to help work more efficiently and reduce product failures’, ‘ISO 45001:2018 Occupational Health & Safety to help reduce accidents in the workplace’ ag ‘ISO 14001:2015 Environment to help reduce environmental impacts, waste and be more sustainable’.”

Ymuno â Cair

Hoffi ymuno â ni…

…mewn Cwmni Moesegol, Amrywiol ac Arloesol? Rydych chi wedi dod i’r lle iawn…

Rydym yn gwerthfawrogi agwedd bositif, synnwyr cyffredin ac angerdd i gyflawni’r gwaith. Rydym yn recriwtio ar sail teilyngdod, tra hyrwyddo cyfleoedd cyfartal i bob gweithiwr ac ymgeisydd am swydd. Rydym yn annog ac yn cefnogi amrywiaeth a chynhwysiant a hyrwyddo diwylliant sy’n gwerthfawrogi gwahaniaethau ac yn dileu gwahaniaethu yn ein gweithle. Mae copi o’r polisi ar gael ar gais.

Os yr ydych efo diddordeb gweithio i Cair, ffoniwch ni ar 01422 399157 neu gyrrwch e-bost a chawn weld a allwn ni helpu ein gilydd. Mae eich ‘avatar’ (a phanad da) yn disgwyl!

Uwch Weinyddwr

Dogfennau Defnyddiol

Polisi Gwarant, Dychwelyd ag Ailgylchu

Diogelwch, yr Amgylchedd ac Ansawdd

Polisi Cwynion Cwsmeriaid