Anturiaethau Mr Dovey, y Gath Ffatri

28/05/25

Anturiaethau Mr Dovey, y Gath Ffatri

Fel oedd yr haul bore yn dod lawr trwy ffenestri uchel y ffatri, mi roedd Mr Dovey y gath, goruchwyliwr Cair, yn ymestyn ar ei hoff fan: pentwr o focsys wedi pecynnu’n daclus. Roedd o yn gath o drefn, ac roedd ei ddiwrnod ar fin cychwyn. 

Y stop cyntaf: Ystafell egwyl, lle’r oedd Linda, y Rheolwr Cyfrif, yn mwynhau paned o de. Roedd hi’n gwybod yn berffaith beth roedd Mr. Dovey eisiau, a churodd eu glin yn gyfeillgar. Neidiodd ar ei glin, yn canolbwyntio ar y cynhesrwydd. Byddai cwtsh da am bum munud yn sefydlu’r naws ar gyfer y diwrnod.

Y nesaf oedd yr adran cynulliad, lle nad oedd sŵn rhythmig y peiriannau byth eu poeni. Roedd Keith, y Gweithredwr, bob amser efo trysor yn ei boced, darn o ham o’i frechdan. Derbyniodd Mr. Dovey hyn gyda chydnabyddiaeth cyn symud ymlaen i archwilio’r peiriannau. Yn mynd rownd bob peiriant, yn stopio weithiau i frathu’n chwaraeus ar y tapiau.

Erbyn canol bore, roedd amser i ymweld â’i gyfaill agosaf, Sam y Gweithredwr Nwyddau Mewn. Dywedodd Sam fod Mr. Dovey y swyddog rheoli gorau erioed. “Nes i ddim gweld llygoden ers i’r bachgen yma ymddangos!” meddyliodd o hyd. Cymerodd Mr. Dovey y ganmoliaeth yma’n dawel, yn rhwbio yn erbyn esgidiau Sam, arddangos cariad prin!

Roedd cinio yn amser prysur, gan fod y gweithwyr i gyd yn y ffreutur. Ymwelodd Mr. Dovey a phawb, ei drwyn yn uchel, gan gasglu darnau bwyd gan weithwyr hael oedd wrth ei bodd efo o. Pysgodyn oedd ar y fwydlen ar Ddydd Iau, felly roedd hynna’n uchafbwynt penodol.

Roedd y llonydd yn y prynhawn yn golygu amser napyn bach; bob amser yn swyddfa’r bos. Roedd sŵn y peiriannau a’r sgyrsiau distaw’r cefndir perffaith ar gyfer cysgu. Roedd Steve, y Rheolwr Cynhyrchu, wedi rhoi’r gorau i geisio cadw ei ddesg yn rhydd o gathod. Yn awr, roedd yn gweithio o gwmpas Mr. Dovey wrth iddo orwedd ar ben adroddiadau, darnau gwaith a thaflenni gorchmynion.

Wrth i’r diwrnod gwaith ddod i ben a chyflymder y peiriannau’n arafu, cymerodd Mr. Dovey ei phatrôl olaf o gwmpas llawr y ffatri, gan nodio at ei ffrindiau, yn derbyn crafiad o dan i ên i yma ac acw, a sicrhau bod popeth yn drefnus. Roedd yn fwy na chath cwmni, roedd yn gydweithiwr, maswt, eicon.

A phan roedd y gweithwyr olaf yn darfod, fe ddod o hyd i Mr. Dovey ei le wrth y drws, yn barod i’w wneud i gyd eto yfory.

 

Diwedd.