Bob blwyddyn, mae Diwrnod Ddiogelwch ac Iechyd yn y lle Gwaith yn taflu goleuni ar bwysigrwydd creu amgylcheddau gwaith diogel ag iach. I ni yn Cair, dyma’r foment berffaith i fyfyrio ar yr hyn y mae iechyd a diogelwch yn ei olygu i ni.
O’r braslun gyntaf ar bapur dylunydd i’r foment bod yn ein hoffer yn cyrraedd dwylo rywun, mae diogelwch ac iechyd yn rhan o bob cam y siwrne. Mae ein cenhadaeth yn syml: i ddylunio offer sydd yn gofalu a grymuso’r bobl sy’n eu defnyddio; o rywun sy’n dibynnu ar CairFall i ganfod codwm, neu gael eu deffro gan bad dirgrynu’r Vibe pan fydd larwm mwg wedi cael eu hactifadu. Mae adeiladu cynhyrchion diogel yn cynnwys llawer o feddwl yn ofalus, profi a mireinio.
Dylunio gyda Diogelwch mewn Golwg
Pryd bynnag y byddwn yn datblygu cynnyrch newydd, rydym o hyd yn meddwl am ddau grŵp penodol: y defnyddwyr a’r tîm cynhyrchu. Mae hyn yn golygu edrych ar bob dim o’r deunyddiau rydyn ni’n eu defnyddio, ystyried a yw cemegau yn ddiogel i’w defnyddio neu os fod yna yna risg wrth drin, i’r siâp a maint o’r cynnyrch, os bod bosib achosi straen neu anaf tra defnyddio, neu hyd yn oed os mae yna ymylon miniog. Mae rhaid i ni hefyd ystyried sut fydd yr offer yn cael eu defnyddio yn fywyd go iawn. Cymerwch synhwyrydd symud PIR fel enghraifft. Mewn rhai senarios, gellid ei ddefnyddio ar gyfer canfod tresmaswyr; os yw’n methu, mae’n niwsans, ond nid yn beryglus. Ond mewn sefyllfa ‘profi bywyd’, gallai canfyddiadau ffug arddangos risgiau gwirioneddol. Felly rydym yn profi’r synhwyrydd o dan wahanol dymereddau, lefelau lleithder ag amodau batri i sicrhau eu bod yn gweithio yn union fel mae o angen. Nid yw diogelwch yn ymwneud ag osgoi niwed yn unig, mae hefyd i wneud siŵr fod help yn cyrraedd pan fydd ei angen fwyaf.
Diogelwch mewn Cynhyrchu
Pan yr ydym yn symud i gynhyrchu, mae iechyd a diogelwch yr un mor bwysig. Rydym yn nodi risgiau yn barhaus, yn gweithredu mesurau rheoli, ac yn gwella prosesau, nid yn unig i’n tîm, ond i bawb sy’n gysylltiedig ledled y gadwyn gyflenwi. Mae peryglon bob amser ar ein radar: peiriannau, deunyddiau, cemegau, hyd yn oed cynllun y gweithle. Lle gallwn, rydyn ni’n eu tynnu’n gyfan gwbl. Pan nad yw hynny’n bosibl, rydym yn rhoi dewisiadau amgen mwy diogel neu sicrhau bod y Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) cywir yn eu lle. Mae pawb yn y tîm yn derbyn hyfforddiant mewn arferion gwaith diogel, ymwybyddiaeth o beryglon, a gweithdrefnau brys. Rydym hefyd yn credu mewn dysgu o bob digwyddiad neu ‘near miss’, dim ots pa mor fach; mae pob gwers yn ein helpu i wneud yn well y tro nesaf.
Logisteg, Gweithio Unigol a Gofalu am ei Gilydd
Unwaith mae’r cynnyrch wedi adeiladu, mae’n amser gael o allan o’r drws, yn saff. O godi eitemau trwm, gweithredu peiriannau, neu’n cadw llwybrau cerdded yn glir, mae pob rhan o’n proses logisteg wedi’i chynllunio gyda diogelwch mewn golwg. Yn ein warws cefn, rydym yn annog aelodau’r tîm i weithio mewn parau le bynnag bosib. Ond, pan fydd gweithio’n unigol yn orfodol rydym yn defnyddio ein larwm personol, Onyx i gadw staff yn saff. Mae’r Onyx yn cysylltu efo’r derbynnydd larwm, Notifier, yn caniatáu gweithwyr unigol i alw am help os bydd angen. Nid yw diogelwch yn rhywbeth rydyn ni’n ei werthu yn unig, mae’n rhywbeth rydyn ni’n byw. Ansawdd y Gallwch chi Ddibynnu Arno
Cyn i unrhyw beth gadael ein ffatri, mae’n cael gwiriadau ansawdd trylwyr. Mae angen i ni wybod bod pob eitem yn cyrraedd y safonau uchel y mae ein defnyddwyr yn eu disgwyl a’u haeddu. Mae iechyd a diogelwch hefyd wedi’i adeiladu yn y ffordd y mae ein cynnyrch yn gweithio. Mae nifer o ein dyfeisiau, fel yr Onyx, yn gyrru rhybudd batri isel i sicrhau eu bod bob amser yn barod i wneud eu gwaith. Ond, tydi o ddim yn unig am y dechnoleg, mae o hefyd am y bobl y tu ôl i’r llenni: y rhai sy’n monitorio’r rhybuddion, ymateb i ddigwyddiadau a sicrhau fod pob dim yn gweithio fel mae bod.
Pobl yn Gyntaf, Bob Amser
Yma yn Cair, credwn fod pobl wrth wraidd iechyd a diogelwch. Os maen nhw’n dylunio cynnyrch, ei ddefnyddio, ei adeiladu, neu’i fonitro, mae eu diogelwch yn bwysig. Felly, er bod Diwrnod Ddiogelwch ac Iechyd yn y lle Gwaith yn gyfle i godi ymwybyddiaeth, i ni, mae’n fusnes fel arfer.
Diwedd.