Pobl Cair

11/10/21

Mae pob un o ein cydweithwyr yn chwarae rhan bwysig i siapio’r dyfodol. Creu cysyniadau, dylunio’r offer a gweithgynhyrchu’r cynhyrchion terfynol, mae o gyd yn digwydd yn ein hwb creadigol yn ganol Halifax. Dyma rhai mewnwelediadau o ddim ond rhai o ein tîm talentog.

Mae datblygu cynhyrchion Cair am gyflawni’r dechnoleg gywir sydd eu hangen gan y cwsmer a dyluniad y cynnyrch. Mae cwsmeriaid a defnyddwyr yn cymryd rhan yn cychwyn a diwedd datblygiad newydd. Yn ystod y datblygiad maent yn cael eu cynrychioli can tîm Gwerthu a Marchnatai ag ein Rheolwr-Gyfarwyddwr. Mae ein tîm bach o beirianwyr medrus yn ddiwyd yn eu danfoniad o’r cynnyrch sydd yn barod am y farchnad ag yn addas ar gyfer cynhyrchu. Rydw i’n falch iawn i weithio ochr yn ochr gyda nhw. (Steve) 

Mae Cair yn gwmni deinamig sydd yn edrych ymlaen at y dyfodol, ac mae o’n bleser gweithio yma fel Datblygwr Systemau Busnes. Dros y blynyddoedd dwi wedi ennill profiad yn bron bob rhan o’r cwmni drwy ysgrifennu meddalwedd sydd yn galluogi nifer o ein gweithrediadau mewnol – o’r nwyddau sydd yn dod i mewn, i reoli cynnyrch i anfon yr offer. Yn ddiweddar rwyf wedi cael y cyfle i weithio efo ymchwil a datblygiad, yn creu offer cysyniad i syniadau newydd, sydd hefyd yn meddwl dod i adnabod anghenion ein cwsmeriaid. Rwyf yn gyffrous i weld rhai o’n hoffer yn y dyfodol dod yn fyw i helpu’r bobl dan ni’n gweithio i fel busnes. (Sean)

Wedi nawr bod yn gweithio yn y diwydiant dylunio am dros 15 mlynedd i nifer o gleientiaid gwahanol, oeddwn eisiau symud i gwmni oedd eisiau wneud gwahaniaeth i bobl oedd angen offer meddylgar, da. Mae Cair yn gwmni sydd yn wirioneddol werthfawrogi’r unigolyn a beth maent yn gallu dod i’r tîm, ag oedd o yn amlwg o’r diwrnod gyntaf mi fyswn i yn ffitio i mewn. Mae’r diwylliant yn Cair yn un sydd yn ymdrechu am y gorau, a dyma sut rwyf yn dylunio offer ac mae o ar y blaen o bethau dwi’n meddwl am pan rwyf yn ystyried opsiynau dylunio. Mae’r rôl yma yn galluogi i mi greu iaith dylunio gydlynol sydd ar draws ein holl offer, o sut maent yn edrych a theimlo, i’n marchnata, a hyd yn oed sut maen nhw’n gal i bacio. (Neil)

Nid yw adran Gwerthu a Marchnata Cair fel unrhyw le arall dwi wedi dod ar draws o blaen. Mi rydym yn cael y cyfle i siarad a gwrando ar bobl ar gyfer deall eu hanghenion, heriau a beth maent wirioneddol angen o dechnoleg. Mae hyn yn gadael i ni weithio yn agos efo ein timau dylunio a datblygu i greu’r atebion cywir. Mae’r ethos o neud bywydau pawb yn well yn amlwg ar draws y busnes, a dwi’n cael fy annog i adeiladau perthnasoedd ystyrlon efo ein cwsmeriaid a phartneriaid, tra cael lot o hwyl ar gyfryngau cymdeithasol hefyd. (Lowri) 

Mae’r holl Dîm Cynhyrchu yn falch ofnadwy am y rhan maent yn chwarae i helpu ein defnyddwyr byw bywydau annibynnol am hirach. Mae ein hadran mewn amgylchedd modern gydag offer o’r safon uchaf. Mae ein holl offer yn cael eu cynhyrchu â’u profi gan ein gweithredwyr medrus. Rydyn yn gweithio i safonau uchel i sicrhau fod bod cynnyrch yn gadael ni’r gorau ellir bod. Mae yna wiriadau ansawdd trylwyr bob cam o’r gweithgynhyrchu ac rydym yn ymfalchïo ein hunain am gael nifer isel o fethiannau yn ein prosesau. Ein harwyddair yw ‘Ansawdd, Ansawdd, Ansawdd’. (Jean)

Fel Rheolwr Cadwyn Gyflenwi Cair, rwy’n rheoli data, cydymffurfio ag risgiau ar draws cadwyni cyflenwi cenedlaethol ag byd-eang. Rydym yn ymdrechu i leihau costau a sicrhau prosesau caffael gyson. Rydym yn gweithio yn agos efo ein cwsmeriaid a chyflenwyr i ddarparu technolegau newydd i ni sydd yn helpu ni i fynd i mewn i farchnadoedd newydd. (Tipu)

Efallai eich bod yn meddwl fod cael adrannau Adnoddau Dynol ac Ansawdd mewn un yn gymysgedd rhyfedd, ond rydym wedi dod a set unigryw o sgiliau at ei gilydd sydd wedi helpu creu amgylchedd gweithio grêt sydd yn annog cyfleoedd i arloesi ar bob lefel. Mae gwelliant parhaus yn bwysig i ni, rhywbeth mae’r gweithlu yn awyddus i gyfrannu at ac mae ein cydweithwyr o hyd yn meddwl am syniadau newydd – dwi erioed wedi gweithio yn rhywle ble mae hynna yn wirioneddol darn o weithrediadau bob diwrnod. I ni, mae ansawdd bywyd ac iechyd meddwl positif yn bwysig, felly rydym yn hoff iawn o gael hwyl hefyd! (Alison)

Diwedd.