Rydym am adael chi fewn ar gyfrinach…

Mae’r Buzzz wedi cael ei ddisodli gan y Notifier, y derbynnydd sydd wedi eu dylunio i’r dyfodol digidol. Nid yn unig wedi gwella, mae’n newydd.

Notifier

Derbynnydd Larwm Cludadwy

Mae’r Cair Notifier yn dderbynnydd larwm cludadwy arloesol. Wedi’i gynllunio i wneud gofalu yn haws ac yn symlach. Gellir defnyddio’r Notifier o senarios gofalu am un person y holl ffordd i gartrefi gofal, gan gysylltu â hyd at 150 o ddyfeisiau a storio cymaint â 30 o rybuddion ar y tro. Bydd y gofalwr yn derbyn rhybuddion uniongyrchol ar yr Notifier, gan ddweud yn union o ble mae’r rhybudd yn dod, gan alluogi ymateb prydlon sydd wedi’i dargedu

Moddau Rhybuddio Amryw – Mae yna dri dull rhybuddio ar y Notifier – sain, dirgryniad a strôb, a gellir  droi ymlaen neu i ffwrdd yn hawdd fel dewiswyd

‘Nurse Call’ – Os yw nifer o Notifiers yn cael eu defnyddio gyda’i gilydd, gallant gyfathrebu â’i gilydd i hysbysu Notifier eraill os yw gofalwr yn delio â rhybudd. Nodwedd effeithlon sy’n arbed amser i nyrsys a gofalwyr

Modd dargyfeirio – Os nad yw rhybudd yn cael eu cydnabod o fewn yr amser oedi sydd wedi eu rhaglennu, mi ellir eu dargyfeirio i uned Teleofal, neu Notifier arall. Mae yna opsiwn ‘i ffwrdd’ ar gyfer adegau pan na fydd yr ofalwyr yn bresennol 

Mae gan y Notifier batri aildrydanadwy sydd yn parhau hyd at 3 diwrnod ag dim ond yn cymryd 2.5 awr i wefru’n llawn

SOS – Gellir pwyso botwm SOS brys ar yr Notifier i rybuddio Notifier neu uned Teleofal arall os oes angen cefnogaeth ychwanegol

Gellir addasu’r Notifier ac mae ganddo lawer o nodweddion a all helpu i wneud gofalu yn broses haws. Mae yna hefyd gloc larwm adeiledig ac opsiwn i amddiffyn rhag rhywun heb awdurdod gwneud newidiadau trwy ddefnydd cyfrinrif

Gydag arddangosfa sgrin LCD gyffwrdd lliw o 2.6”, mae’r Notifier yn reddfol iawn i’w ffurfweddu a’i ddefnyddio. Mae’r modd clonio yn galluogi data’r dyfeisiau a gosodiadau cael eu trosglwyddo yn hawdd o un Notifier i un arall. 

Mae’r derbynnydd larwm ysgafn, cludadwy’r maint perffaith i’w gario yn eich poced. Mae hefyd yn cynnwys clip belt a llinyn ar gyfer opsiynau gwisgo ychwanegol. Mae’r Notifier hefyd yn atal sblash sy’n eich galluogi i’w ddefnyddio yn y mwyafrif o amgylcheddau.

Mae’r holl gamau gweithredu a rhybuddion yn cael eu recordio a’u stampio â dyddiad, a gellir eu gweld ar sgrin yr Notifier neu eu huwchlwytho i gyfrifiadur personol ar gyfer adroddiadau rheoli.

Mae’r Notifier ar gael mewn du neu wyn

  • Sgrin cyffwrdd lliw LED
  • Gwefru diwif
  • Bywyd batri hyd at 3 diwrnod 
  • Nodwedd clonio
  • Dargyfeirio i uned teleofal
  • Opsiwn i ddargyfeirio pan i ffwrdd
  • Nodwedd SOS 
  • Clirio galwadau yn awtomatig ar Notifier arall 
  • Cefnogi hyd at 150 dyfeisiau cysylltiedig 
  • Opsiynau rhybuddio sain, digrynu a strôb
  • Amddiffyn pin i amddiffyn gosodiadau
  • Hanes rhybuddio
  • Gwrth-ficrobaidd, hawdd glanhau ac yn gwrthsefyll dŵr
  • Opsiwn distawi
  • Dangosydd statws batri a gwefru
  • Nodwedd profi i ddarganfod cryfder signal

Beth mae ein cwsmeriaid yn ei ddweud

“Mae’r galwr nawr y prif alwr sydd yn cael eu defnyddio gan OneCall, mae’r tîm gosod wrth eu bodd efo faint hawdd yw eu rhaglennu ag yn hawdd eu defnyddio, mae’r arddangosaf smart gyda’r bywyd batri gwell a’i dibynadwyedd wedi cael eu derbyn yn dda iawn gydag ein darparwyr gofal sydd yn defnyddio’r system yn eu cartrefi gofal ar draws y fwrdeistref.” / Cyngor Bwrdeistref Stockton

O’r Newyddion

Cau Lawr Dros y Nadolig

Cau Lawr Dros y Nadolig

Cau Lawr Dros y Nadolig - 21ain Rhagfyr i 11eg Ionawr Mae'r corachod Cair wedi bod yn brysur iawn yn ein gweithdy trwy gydol 2020, gan wneud ein cynhyrchion arloesol a chreu pethau newydd cyffrous...

Pwysigrwydd Lluniadu

Pwysigrwydd Lluniadu

Yn oes fodern technoleg a datblygiadau cyfrifiadurol mae'n hawdd anghofio am sgiliau mwy gostyngedig a sylfaenol, fel lluniadu ac yn benodol, y pwysigrwydd sydd ganddo o hyd yn y broses datblygu...

Mae’n Wythnos Ailgylchu!

Mae’n Wythnos Ailgylchu!

Mae pob wythnos yn wythnos ailgylchu i ni. Mae gennym gred fawr mewn gwneud be allwn i helpu i ddiogelu'r amgylchedd. Ar ôl i chi ymuno â chwmni fel Cair, lle mae'r ymrwymiad i ddiogelu'r amgylchedd...