Contact
Synhwyrydd Drws/Ffenestr
Contact, ein datrysiad monitro drws a ffenestri arloesol, sy’n cynnig cymaint mwy nag yr ydych wedi arfer efo. Datrysiad rhyngweithredol, diddos a fydd yn ffitio i mewn i ble bynnag mae rhywun yn dewis galw adref. Mae’r Contact yn cynnig nodweddion sy’n unigryw i unrhyw ddyfais sydd yn monitro allanfa.
Mae’r dyluniad lluniaidd, diwifr yn cynnwys cyswllt magnetig a dyfais canfod. Mae gan Contact sawl dull gweithredu sy’n golygu un ddyfais ar gyfer nifer o ddefnyddiau gwahanol. Mae’n syml i’w drefnu ac yn hawdd ei ddefnyddio. Mae modd gosodwr yn caniatáu ichi sefydlu’r ddyfais yn iawn, y tro cyntaf, bob tro.
Mae’r dyluniad yn ddiddos ac yn gwrthsefyll tymheredd isel, sydd yn caniatáu iddo gael ei ddefnyddio y tu allan os oes angen, gan roi mwy o hyblygrwydd i chi nag erioed.
Gellir gosod y Contact ar ffrâm drws neu ffenestr gyda’r magnet, neu’r ffordd arall o gwmpas. Gyda nifer o opsiynau gosod, gellir gosod y Contact yn ludiog neu ei sgriwio.
Mae gan y ddyfais luniaidd, ddiwifr ddau fotwm. Mae’r botwm bach yn switsh ymlaen/i ffwrdd, a gellir ei anablu os oes angen. Gall gofalwyr ddefnyddio’r botwm mawr i fynd i mewn neu adael eiddo heb drosglwyddo rhybudd. Gall y ddyfais arloesol hon hefyd anfon rhybudd ailadroddus os nad yw’r drws/ffenestr wedi cau.
- Botwm ymlaen/i ffwrdd hawdd ei ddefnyddio
- Modd mynediad/allanfa gofalwr
- Rhybudd drws wedi aros yn agored
- Rhybudd drws wedi aros yn agored, ailadroddwyd
- Cydnaws gyda synhwyryddion ‘virtual’
- Modd gosodwr
- Gosodiad sgriw neu ludiog
- Batri gyda oes waith o 3 mlynedd
- Pellter gweithio hyd at 600m
Beth mae ein cwsmeriaid yn ei ddweud
“Wrth ein bodd efo’r synhwyrydd drws! Maent yn bleser gweithio efo.”
O’r Newyddion
Pobl Cair
Mae pob un o ein cydweithwyr yn chwarae rhan bwysig i siapio'r dyfodol. Creu cysyniadau, dylunio'r offer a gweithgynhyrchu'r cynhyrchion terfynol, mae o gyd yn digwydd yn ein hwb creadigol yn ganol...
Dyluniad i Bawb
Yma yn Cair, rydym yn credu'n gryf bod arloesi efo'r gallu i ychwanegu gwerth go iawn i ein cynnig cynnyrch. Rydym hefyd yn credu dylai dyluniad meddylgar, da bod ar draws bod farchnad yn gynhwysol....
Materion Ansawdd
Rydym yn falch iawn o fod yn gwmni teuluol sydd wedi eu sefydlu yn Swydd Efrog. Mae rhai yn deud nag ansawdd yw'r cynllun orau, a dyna sut yr ydym yn rhedeg ein busnes ni. Un o'r elfennau sydd yn...