Flood

Synhwyrydd Llifogydd

Y Flood yw’r ffordd luniaidd a disylw i ganfod llifogydd a dŵr yn gollwng. Yn ddiddos i safon IP67, gellir ei ddefnyddio dro ar ôl tro. Os ydych chi yn gofalu am bobl sy’n byw’n annibynnol neu mewn cartref chymorth, bydd y Flood yn sicrhau bod y rhybudd yn cael ei godi.

Mae’n ddelfrydol ar gyfer ei ddefnyddio mewn ystafelloedd ymolchi, ceginau neu unrhyw fannau sy’n dueddol o lifogydd i rybuddio bod tapiau heb ei difodd, neu sinciau neu doiledau wedi’u blocio. Nid oes angen gosodiad na ffitiad. Dylid ei roi ar wyneb gwastad yn agos at y bath, sinc, toiled, neu ble bynnag y mae llifogydd neu ollyngiad yn debygol o ddigwydd.

Mae rhaglennu yn hawdd, ac mae lliain gwlyb yn ddigon i’w actifadu.

Mae gan Flood bellter gweithio hyd at 600m, a 5 mlynedd bywyd batri y gellir ei newid.

Mae’r cysylltiadau aur-blatiog yn cael eu codi’n ffracsiynol uwchben y llawr er mwyn osgoi galwadau diangen.

O’r Newyddion

Ailgylchu i Ein Cwsmeriaid am Ddim

Ailgylchu i Ein Cwsmeriaid am Ddim

Fel rhan o'n hymrwymiad i fod yn ffeind i'r amgylchedd mi rydym hefyd yn angerddol am ddylanwadu ein cwsmeriaid i wneud yr un peth. Pan fydd uned yn cyrraedd 'diwedd eu bywyd', gallwn ailgylchu'r...

Cau Lawr Dros y Nadolig 2022

Cau Lawr Dros y Nadolig 2022

Cau Lawr Dros y Nadolig - 23ain Rhagfyr i 2il Ionawr Mae o wedi bod yn flwyddyn brysur arall i gorachod Cair! Mae'r gweithdy wedi bod yn wirioneddol lle hudolus wedi eu llenwi efo syniadau cyffrous...

Pwy yw Cair?

Pwy yw Cair?

Lansiwyd Cair yn 2013, gyda chenhadaeth i wellau bywydau pobl drwy dechnoleg arloesol. Mae ein Rheolwr-Gyfarwyddwr, Mohammed wedi bod yn neud technoleg ddiwifr am dros 13 mlynedd, a welodd cyfle i...