Flood

Synhwyrydd Llifogydd

Y Flood yw’r ffordd luniaidd a disylw i ganfod llifogydd a dŵr yn gollwng. Yn ddiddos i safon IP67, gellir ei ddefnyddio dro ar ôl tro. Os ydych chi yn gofalu am bobl sy’n byw’n annibynnol neu mewn cartref chymorth, bydd y Flood yn sicrhau bod y rhybudd yn cael ei godi.

Mae’n ddelfrydol ar gyfer ei ddefnyddio mewn ystafelloedd ymolchi, ceginau neu unrhyw fannau sy’n dueddol o lifogydd i rybuddio bod tapiau heb ei difodd, neu sinciau neu doiledau wedi’u blocio. Nid oes angen gosodiad na ffitiad. Dylid ei roi ar wyneb gwastad yn agos at y bath, sinc, toiled, neu ble bynnag y mae llifogydd neu ollyngiad yn debygol o ddigwydd.

Mae rhaglennu yn hawdd, ac mae lliain gwlyb yn ddigon i’w actifadu.

Mae gan Flood bellter gweithio hyd at 600m, a 5 mlynedd bywyd batri y gellir ei newid.

Mae’r cysylltiadau aur-blatiog yn cael eu codi’n ffracsiynol uwchben y llawr er mwyn osgoi galwadau diangen.

O’r Newyddion

Defnyddio plastig untro i greu tai gwydr ffrâm oer

Defnyddio plastig untro i greu tai gwydr ffrâm oer

Mi rydym yn freintiedig a balch iawn bod ein staff yn angerddol am fod yn ffeind i'r amgylchedd a chymryd ein hethos i'r gymuned ehangach yn ogystal ag yn ei waith. Mae unrhyw blastig untro sydd yn...

Gorffennaf Di-Blastig

Gorffennaf Di-Blastig

Mewn llai na 30 blynedd mae yna bosib fydd yna mwy o blastig, wrth bwysau, na physgod yn y môr. Dychmygwch hynny! Ond nid os rhaid i'w ddychmygu. Dyna yw'r gwir, mae o'n digwydd rŵan. Rydym i gyd yn...

Blwyddyn ymlaen….

Blwyddyn ymlaen….

Maen nhw'n dweud fod 'hindsight yn 2020', er ychydig ohonom ni allai fod wedi rhagweld beth fyddai'n digwydd yn y flwyddyn 2020. Roeddwn yn ddigon ffodus i deithio ar ddechrau'r flwyddyn honno; ar y...