Gorffennaf Di-Blastig

30/06/21

Mewn llai na 30 blynedd mae yna bosib fydd yna mwy o blastig, wrth bwysau, na physgod yn y môr. Dychmygwch hynny!

Ond nid os rhaid i’w ddychmygu. Dyna yw’r gwir, mae o’n digwydd rŵan. Rydym i gyd yn ymwybodol fod plastig yn ddrwg i’r amgylchedd: mae anifeiliaid yn ei bwyta, mae o’n llenwi dyfrffyrdd ag yn eistedd yn y cefnforoedd, mae o’n mynd i bob man ag yn barau am byth – mae hyd yn oed plastig mewn bagiau te!

Mae’r broblem mor fawr ag eang mae gwellau hyn yn teimlo yn amhosib, ond os yr ydym yn wneud un newid bach i leihau neu gael gwared â phlastig yn iawn buan y mae o’n adio i fynnu. Mae pethau yn newid, mae ymwybyddiaeth yn tyfu ac mae mentrau newydd i dynnu neu ailgylchu plastig yn arddangos o hyd – diolch i waith anhygoel Syr David Attenborough ag eraill fatha fo.

Mae o’n drist ond yn wir na dim ond 10% o blastig yn y byd sydd yn cael eu hailgylchu. Mae o’n wir fod ni gyd angen wneud yn well.

Neges plastig Syr David Attenborough

Mae gan Cair ffocws cryf ar wneud be fedrwn ni i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd yn waith ac adref, dim ots faint bach.

Mae gennym amcan reoli parhaol i leihau’r plastig yr ydym yn defnyddio o 5%, disodli plastig efo defnydd a ellir eu hailgylchu neu gompostio i atal llygredd a gostwng gwastraff.

Mae rhai o’n mentrau yn cynnwys:

  • Dylanwadu cyflenwyr i gytuno i leihau eu pecynnu 
  • Ail defnyddio defnydd pecynnu mewnol ar gyfer ein hoffer sydd yn mynd allan
  • Dylanwadau cyflenwr i gymryd yn ôl riliau cydran blastig i’w ailgylchu
  • Prynu mewn swmp e.e. glanweithydd llaw i leihau poteli plastig 
  • Boteli a ellir eu hailddefnyddio trwm-ddyletswydd ar gyfer hylif glanhau yr ydym yn gwneud ein hunain, sydd yn ffeind i’r amgylchedd
  • Gorchuddion wyneb ffabrig a ellir eu hailddefnyddio
  • Boteli dwr gwydr a ellir eu hailddefnyddio fel anrhegion pen-blwydd gwaith mewn bagiau papur sydd yn ffeind i’r amgylchedd

Rydym hefyd wedi arwyddo i fod yn rhan o ‘UK Plastic Pact’. Gallwch chi gymryd rhan yma

Diwedd.