Flood

Synhwyrydd Llifogydd

Y Flood yw’r ffordd luniaidd a disylw i ganfod llifogydd a dŵr yn gollwng. Yn ddiddos i safon IP67, gellir ei ddefnyddio dro ar ôl tro. Os ydych chi yn gofalu am bobl sy’n byw’n annibynnol neu mewn cartref chymorth, bydd y Flood yn sicrhau bod y rhybudd yn cael ei godi.

Mae’n ddelfrydol ar gyfer ei ddefnyddio mewn ystafelloedd ymolchi, ceginau neu unrhyw fannau sy’n dueddol o lifogydd i rybuddio bod tapiau heb ei difodd, neu sinciau neu doiledau wedi’u blocio. Nid oes angen gosodiad na ffitiad. Dylid ei roi ar wyneb gwastad yn agos at y bath, sinc, toiled, neu ble bynnag y mae llifogydd neu ollyngiad yn debygol o ddigwydd.

Mae rhaglennu yn hawdd, ac mae lliain gwlyb yn ddigon i’w actifadu.

Mae gan Flood bellter gweithio hyd at 600m, a 5 mlynedd bywyd batri y gellir ei newid.

Mae’r cysylltiadau aur-blatiog yn cael eu codi’n ffracsiynol uwchben y llawr er mwyn osgoi galwadau diangen.

O’r Newyddion

Enwog o’r diwedd!

Enwog o’r diwedd!

Mis diwethaf buom yn dathlu ein hardystiad ISO45001. Mae gennym ni fwy o newyddion da i rannu efo chi! Mae Alison a Jo, ein harbenigwyr ISO newydd, wedi cael eu credydu mewn llyfr. Maen nhw hefyd...

Rywun yn gweithio gartref?

Rywun yn gweithio gartref?

Mae fy nhaith Cair yn dal reit ifanc, ac mae wedi bod yn wahaniaeth mawr i sut mae'r rhan fwyaf o swyddi newydd yn cychwyn. Efo'r cloi mawr yn i le, mae wedi bod dros 7 wythnos ers i mi weld unrhyw...