Swydd: Cydlynydd Logisteg

Lleoliad: Halifax

Os gennych chi lygad am fanylion ag efo awydd am ragoriaeth? Ydych chi eisiau gweithio llawn amser ond dal i gael cydbwysedd gwaith a bywyd personol gyda phob Dydd Gwener i ffwrdd? Os yr ydych efo diddordeb i weithio i gwmni electroneg sydd yn gwneud cynhyrchion gwych sydd yn helpu gwneud bywydau pobl yn well, ymunwch a’n cwmni teuluol yn ganol Halifax.

Dyletswyddau a chyfrifoldebau

NWYDDAU I MEWN

  • Yn derbyn a phrosesu nwyddau a derbynwyr
  • Cynnal arolygiadau o nwyddau a derbynwyr, gwirio ansawdd, meintiau ag unrhyw ddifrod
  • Mewnbynnu manylion o nwyddau ar y system gyfrifiadurol â’u paru efo archebion
  • Adrodd unrhyw anghywirdebau, gwallau neu faterion ar unwaith

NWYDDAU ALLAN

  • Pigo eitemau stoc yn gywir yn unol â gwaith papur/anghenion y cwsmer
  • Pecynnu archebion yn ddigonol am ddanfoniad diogel i’r cwsmer
  • Cysylltu efo cludwyr gwahanol i drefnu danfoniadau i gwsmeriaid

RHEOLI STOC

  • Yn gyfrifol am reoli stoc yn effeithiol ag yn gywir
  • Rhoi eitemau i mewn ag allan o stoc yn gywir
  • Paratoi cit i Gynhyrchu ag sicrhau fod cit ar gael pan fydd eu hangen
  • Storio rhannau yn gywir a chreu lleoliadau newydd i rannau fel y bydd angen
  • Defnyddio system gyfrifiadurol i gynnal cofnodion cywir, a throsglwyddiadau stoc a.y.b.
  • Helpu efo cyfri stoc
  • Codi (hyd at 25 cilogram) yn defnyddio technegau codi a chario diogel ag, am godi trwm, defnyddio cymhorthion trin â llaw fecanyddol neu gael help can cydweithwyr

CYFFREDINOL

  • Rhoi cymorth i swyddogaeth Cadwyn Gyflenwi fel bydd angen
  • Cadw at bolisïau, gweithdrefnau a chanllawiau Iechyd a Diogelwch, Ansawdd ag Amgylchedd y cwmni yn unol â safonau ISO
  • Cadw ardal gweithio yn daclus, yn rhydd o beryglon, ag yn adrodd unrhyw beryglon posibl yn brydlon
  • Unrhyw dasgau eraill yn ôl yr angen

Amcanion Allweddol

  • Yn sicrhau fod archebion cwsmeriaid yn cael eu prosesu yn gywir tro gyntaf, bob tro
  • Darpariaeth gywir o gitiau ar gyfer Cynhyrchu pan fo angen
  • Cynnal safonau uchel
  • Cywirdeb 100%
  • Hyrwyddo gwaith tîm

Beth rydyn ni’n ei gynnig

  • Oriau gweithio 37.5 awr dros 4 diwrnod
  • Hawl gwyliau
  • Ymrestru pensiwn yn awtomatig
  • Amgylchedd gwaith mawr, modern gyda pharcio am ddim a phwyntiau gwefru trydanol

Gwnewch gais ar-lein