Mis diwethaf buom yn dathlu ein hardystiad ISO45001. Mae gennym ni fwy o newyddion da i rannu efo chi!
Mae Alison a Jo, ein harbenigwyr ISO newydd, wedi cael eu credydu mewn llyfr. Maen nhw hefyd wedi cael gwahoddiad i siarad mewn cynhadledd ‘Women in Quality’. Yma maen nhw’n egluro beth sy’n digwydd.
Fel y gŵyr unrhyw un ag ardystiad ISO, daw archwiliadau fel rhan o’r pecyn. Pan ddechreuon ni weithio ar ISO45001 ar gyfer iechyd a diogelwch galwedigaethol ar ddechrau blwyddyn ddiwethaf, dyddiad yr archwilio yn fis Rhagfyr oedd ein dyddiad cau. Ein harchwilydd oedd Jennie Clark ac roedd hi wedi trefnu i ddod draw ar gyfer ymweliad archwilio dros dri diwrnod a hanner – argh!
Mae archwiliad yn aml yn cael ei drin fel rhywbeth i’w ofni, ond ni ddaethom o hyd i hynny gyda Jennie. Mae ganddi flynyddoedd o brofiad o archwilio mewn diwydiannau amrywiol ond mae ei dull yn bragmatig. Fel archwilydd, ni all hi ddweud wrthych chi sut i wneud pethau, ond rydym wedi dysgu llawer o’r archwiliadau a’r ffordd y mae Jennie yn gwneud inni ystyried y safonau a’u goblygiadau i ni. Yn amlwg mae’n rhaid i chi fodloni gofynion y safon, ond mae hi’n eich annog chi i feddwl am y safon fel offeryn a’r hyn y gall ei wneud i’ch busnes, sut y gallwch chi wneud iddo weithio i chi yrru pethau ymlaen. Fe helpodd hi ni i wneud synnwyr ohono, yna roedden ni’n gallu gwneud hyn yn berthnasol i ni .
Roeddem yn gwybod bod Jennie yn bwriadu ysgrifennu canllaw i ISO45001 ond nid oeddem byth yn disgwyl cael ein henwi ynddo, heb sôn am rywfaint o’n gwaith yn cael ei gyfeirio ato fel ymarfer da. Roedd yn ganmoliaeth aruthrol.
Llyfr Jennie, “Making Sense of ISO 45001: 2018” yw’r ail yn ‘The Simple Systems Series’, (ar gael ar Amazon). Mae wedi’i ysgrifennu mewn Saesneg clir, yn hawdd ei ddarllen ac yn rhoi enghreifftiau ymarferol. Rydym yn bendant yn ei argymell i unrhyw un sy’n cychwyn ar y safon hon.
Mae Jennie wedi ein gwahodd i gymryd rhan mewn cynhadledd ‘Women in Quality’ i rannu rhai o’n profiadau a’n syniadau, ac rydym yn falch iawn ein bod wedi cael y gwahoddiad. Os all ein profiad ni helpu rhywun arall ar eu taith ISO45001, mae’n beth da.
Meddai Jennie “Rwyf bob amser yn awyddus i weld beth mae MK wedi gwneud gyda’u system yn yr amser ers eu harchwiliad diwethaf, ac nid wyf eto wedi cael fy siomi! Mae’r ffordd y mae’r sefydliad yn defnyddio strwythur y safonau ond yna’n adeiladu ar ben hynny yn dangos greddf, ysgogiad a dealltwriaeth go iawn ac mae’r tîm yn haeddu’r gydnabyddiaeth a roddais iddynt yn fy llyfr. Dyma ni i’r archwiliad nesaf! ”