Swydd: Rheolwr Cynhyrchu
Lleoliad: Halifax
Rydym yn chwilio am Rheolwr Cynhyrchu ardderchog i ymuno efo’n hadran Cynhyrchu. Mae synnwyr cyffredin, angerdd a gwaith tîm yn hanfodol i lwyddiant yn y rôl hon. Yn ddelfrydol, mi fydd gennych gefndir gweithgynhyrchu electroneg efo profiad o arwain tîm. Mi fydd yr ymgeisydd llwyddiannus efo dull arweinyddiaeth bragmatig ag cydweithredol, efo ffocws ar ansawdd a gwelliant parhaus.
Dyletswyddau a chyfrifoldebau
- Yn gyfrifol am gynhyrchu a chynllunio gweithrediadau dyddiol
- Cynllunio, amserlennu ag adolygu llwyth gwaith ag adnoddau i sicrhau fod targedau yn cael eu cyrraedd mewn ffordd gost-effeithiol
- Dilyn i fynnu ymyraethau i archebion
- Sicrhau fod lefel uchel o wasanaeth cwsmer yn cael eu cynnal
- Yn gyfrifol am sicrhau fod offer newydd yn cyfarfod y dyluniad am weithgynhyrchu
- Dreifio effeithlonrwydd a gwelliant parhaus
- Gweithio yn agos efo adrannau eraill
- Sicrhau fod rheolaethau cynhyrchu addas a ddigonol yn cael eu nodi a’i weithredu
- Yn gyfrifol am greu ag diweddaru cyfarwyddiadau adeiladu fel y bydd angen
- Arwain, rheoli a chymell y tîm
- Cydlynu hyfforddiant a datblygiadau’r tîm i wneud y mwyaf i alluoedd
- Sicrhau fod KPI’s wedi eu gosod ag yn cael eu cyflawni i gyfarfod anghenion y busnes
- Yn gyfrifol am goladu, cynhyrchu a lledaenu’r data perthnasol ac adroddiadau ystadegol fel y bydd angen
- Mynychu a chyflwyno mewn cyfarfodydd, gan gynnwys briffiau tîm rheolaidd
- Sicrhau amgylchedd gweithio positif drwy hyrwyddo cyfathrebu agored ag dynesiad ‘alla’i wneud’ positif
- Fel perchennog proses, sefydlu, monitro a chynnal systemau a gweithdrefnau cynhyrchu i gyfarfod safonau ISO am Ansawdd, Diogelwch a’r Amgylchedd
- Unrhyw ddyletswyddau arall ag bydd angen
Amcanion Allweddol
- Sicrhau fod cynnyrch yn cael eu cynhyrchu yn gywir y tro cyntaf i gyfarfod anghenion y cwsmer
- Sicrhau fod y cynnyrch ar gael 99% or amser
Chwilio am gyfleoedd am welliant parhaus â’u hyrwyddo - Arweinyddiaeth tîm effeithiol
Beth rydyn ni’n ei gynnig
- Oriau gweithio 37.5 awr dros 4 diwrnod
- Hawl gwyliau
- Ymrestru pensiwn yn awtomatig
- Amgylchedd gwaith mawr, modern gyda pharcio am ddim a phwyntiau gwefru trydanol