Gweithio gyda Chyngor Pen-y-bont i greu’r Onyx Enfys

01/12/20

Yma yn Cair, rydym yn falch o feddwl ymlaen ag cynnig datrysiadau newydd ag arloesol i’ch problemau. Mae gennym yr allu i greu a dylunio cynhyrchion newydd o syniad gwreiddiol i’r cynnyrch terfynol yn hawdd. Rydym eisiau creu datrysiadau sydd wirioneddol ei angen, byddem i ni gyd eisiau yn ein cartrefi, ag o syniad can Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ganwyd y casgliad ‘Onyx Rainbow’.

Mi oedd y tîm yn Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr wrth ei bodd efo’r nodweddion a dyluniad ein Onyx gwreiddiol, sydd efo bywyd batri hyd at 5 mlynedd a phellter gweithio hyd at 600m. Oedd yr Onyx y larwm personol gyntaf i gael ei ysbrydoli gan emwaith, lansiwyd yn 2013 ac wedi eu dylunio i edrych yn dda, fod yn ddisylw ag i gael gwared â stigma sydd weithiau yn gysylltiedig efo’r larymau personol traddodiadol. Er mwyn cynnig dewis, yn enwedig i’r rheini gyda nam ar y golwg i adnabod yr Onyx yn erbyn arwyneb tywyll, mi ofynnodd a fedrwn ni cynnig opsiynau lliw gwahanol, tra dal i gadw’r golwg emwaith. Gwnaethom dderbyn yr her!

Mi wnaeth ein Harweinydd Dylunio Diwydiannol, Neil dechrau edrych ar liwio gwahanol gydrannau o’r Onyx, gan gynnwys y casin, mewnosodiad metel a’r botwm. O famau, mi wnaeth o greu cyfres o rendradau yn dangos be fydd pob opsiwn yn edrych fel, oedd yn galluogi i’n Rheolwr Cyfrif, Lowri i weithio efo Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr i edrych ar yr opsiynau yn fwy manwl. Mi ymunodd tîm Teleofal y cyngor gyda thîm Nam Synhwyraidd i ystyried yr opsiynau i alluogi ni i gadarnhau’r dyluniad i ffitio i mewn efo’i weledigaeth ag i ddatrys yr heriau go iawn maent efo. Efo cyfres o fwy o rendradau, mi wnaethom lanio ar set o rendradau a lliwiau. Wrth gwrs, nid oeddem yn gallu dewis jest un lliw, felly wnaethom benderfynu ar 5 opsiwn: melyn, coch, gwyrdd, glas ag oren. Wedyn, gafodd y lluniau a manylebau lliw ei yrru i’n partner cynhyrchu er mwyn i samplau cael eu creu.

Roedd gweld yr ‘Onyx Rainbow’ yn dod yn fyw mor gyffrous, nid yn unig i ni yn Cair ond hefyd i Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr. Meddai Louise Baker, Cydlynydd Teleofal a Thechnoleg: “Dwi wrth fy modd efo’r enw ‘Onyx Rainbow’! Dwi mor ddiolchgar eich bod chi wedi rhoi’r cyfle i mi fod yn ddarn o’r broses dylunio. Dwi wrth fy modd yn creu pethau, rhoi syniadau ymlaen am gynnyrch go iawn a gweld y newidiadau. Bod yn y rôl dwi fewn, nid yr wyf yn cael llawer o gyfle i neud hynny felly dwi mor ddiolchgar eich bod chi wedi gadael i mi chwaraea rhan fach mewn dylunio rhywbeth efo chi. Mae o wedi bod yn uchafbwynt o fy mlwyddyn gweithio ag ni allai disgwyl neud fwy yn y dyfodol.”

Mae’r ‘Onyx Rainbow’ ar gael i’w brynu nawr www.we-cair.com 

Diwedd.