hac [hac] ENW

I ddefnyddio rhywbeth mewn ffordd arloesol er mwyn cwblhau proses yn fwy effeithiol.

hac (enw) · haciau (enwau)

Haciau TeleCAIR

Yma yn Cair rydym yn gwerthfawrogi bod cynhyrchion yn aml yn cael eu defnyddio ychydig yn wahanol i sut a fwriadwyd, ac rydym yn dathlu hyn, yn enwedig pan all arbed amser ac arian i chi! Cymerwch gip ar ein hoff Haciau TeleCAIR isod…

Sicrhau Amgylchedd Saff

Mae deall yr amgylchedd yn eich cartref yn bwysig iawn. Mae gan bob un ohonom larymau mwg, sydd yn helpu cadw ni yn saff wrth wybod byddem yn cael ein rhybuddio os fydd yna dân. Yn debyg, mae synwyryddion CO yn rhybuddio os fydd lefelau peryg o CO yn cael eu darganfod yn yr eiddo. Mae’r Climate yn ddyfais glyfar sydd yn rhoi diogelwch a sicrwydd pellach yn ein cartrefi. Mae’n gallu darganfod tymheredd uchel, pan fydd rhywun mewn perygl o ddadhydradu, neu dymheredd isel, pan fydd rhywun mewn perygl o hypothermia. Mae hefyd yn gallu darganfod tymheredd yn codi yn sydyn, ellir helpu darganfod risg o dân cyn i un cychwyn ac mae hyd yn oed yn darganfod lefelau uchel ac isel o leithder hefyd. Mae hynna yn lot am ddyfais fach!

Diogelwch i ddefnyddwyr a’u hymwelwyr

Mae’r llinyn tynnu wedi cael gweddnewidiad! Mae’r Reach yn llinyn tynnu diwifr, diddos a ellir gosod yn strategol tu fewn a thu allan. I bobl sydd yn ffeindio hi’n anodd pwyso botwm, mi ellir gosod y llinyn tynnu mewn ardaloedd efo risg uchel yn y cartref, fel bod nhw â’u hymwelwyr yn gallu codi larwm os fydd angen cefnogaeth.

Creu amgylcheddau saffach

Mae larymau mwg a gwres, sydd wedi cysylltu efo ganolfan fonitro, yn rhoi sicrwydd fydd help ar gael os fydd yna dân yn y cartref. Mae’r larwm clywadwy yn y cartref hefyd yn rhoi rhybudd lleol. Ond beth os mae’r larwm gwres yn y gegin yn swnio ac yr ydych yn cysgu’n drwm yn yr ystafell gwely? Mae ein synwyryddion gydgysylltiedig newydd, y Smoke+ a Heat+, yn sicrhau fod pob dyfais gysylltiedig yn rhybuddio pan fydd yna ddigwyddiad. Mae hyn yn golygu bydd y larwm mwg yn yr ystafell gwely yn swnio os fydd dyfais arall yn y cartref yn actifadu, yn sicrhau tawelwch meddwl ag amgylchedd saffach.

Dim gwifrau, llai o broblemau!

Ocê, mae synwyryddion deiliadaeth gwely a chadair yn ffordd grêt o reoli nifer o bethau gwahanol. O gefnogi rhywun pan maent yn sefyll o’i gadair, sicrhau fod rhywun yn symud o’i gwely i gadair yn saff, neu os mae person yn codi o’i gwely yn ystod y nos, a ddim yn dod yn ôl mewn amser saff iddyn. Rŵan, yn ogystal â’r Detect a phadiau Sit/Sleep, rydym yn cyflwyno ein Sit/Sleep Advanced. Mae’r pad ac uned rheoli fach i gyd o fewn un uned. Mae hyn yn golygu dim gwifrau, sydd yn wneud yn addasol i hyd yn oed fwy o wlâu a chadeiriau. Mae’r Sit Advanced hyd yn oed efo tyllau gosod ym mhob cornel i helpu chi ddiogelu’r uned yn eu lle!
 

 

Blanced ddiogelwch

Un cyfyngiad i dderbynnydd ar y farchnad, gan gynnwys y Buzzz, oedd y gallu i greu diogelwch i rheini sydd yn dibynnu’n bennaf ar ofalwyr yn gartref nhw hyn. Gydag ateb sydd yn annibynnol o system arall, be fysa’n digwydd os mae’r person sydd yn derbyn y gofal angen cymorth pan mae’r gofalwyr wedi mynd allan? Beth os mae’r gofalwyr nhw hyn angen cymorth? Dyma wnaeth arwain ni i ddatblygu’r nodwedd dargyfeirio sydd yn galluogi teulu a gofalwyr i gael y dewis i ofalu yn yr achos cyntaf, ond yn rhoi’r sicrwydd fydd y galwad yn cael eu dargyfeirio i uned Teleofal os na fydd yr Notifier yn cael eu cydnabod. Mae’n bosib newid yr amser mae’n cymryd galwad i ddargyfeirio yn hawdd ar y Notifier, neu mae’n bosib i’r gofalwyr gadael y ddyfais wybod bod nhw i ffwrdd fel bod y galwad yn mynd i’r ganolfan fonitro syth bin. Mae’r botwm SOS hefyd yn rhoi’r gallu i’r gofalwr creu galwad am gymorth i’r ganolfan fonitro, lle fedrith nodi na’r gofalwyr sydd yn ofyn am gymorth a bod y camau priodol yn cael eu cymryd.
 
 
 

 

Gwelwch y goleuni!

Nid yn unig yw’r Contact, ein synhwyrydd drws a ffenestr, yn syml i’w ddefnyddio, mae hefyd yn hawdd iawn i’w osod! Mae’r modd gosodwyr wedi eu dylunio i helpu gosodwyr i benderfynu lle i osod y Contact a’r magnet. Mi fydd y LED yn goleuo’n wyrdd os mae’r Contact yn darganfod y magnet ag yn goch os mae’r magnet yn rhy bell i ffwrdd. Felly ni ellir neud camgymeriad!

 

Dim ond gofyn!

 
Rydym am adael chi wybod cyfrinach fach, yr hac gorau ydi jest i ofyn. Dywedwch wrthym ba offer yr ydych eisiau gweld, ag unrhyw adborth gennych ynglÅ·n â’n synwyryddion presennol. Rydym efo tîm clyfar sydd o hyd yn edrych i greu’r atebion gorau sydd yn rhoi yn union beth yr ydych eisiau. Er enghraifft, mi gannwyd yr Onyx Rainbow o syniad gafodd un o ein cwsmeriaid. Rydym wedyn newid amseroedd ar y synhwyrydd deiliadaeth Detect, gan fod cwsmeriaid eisiau gwahanol opsiynau. Mae’r Notifier sydd i ddod efo’r gallu i ddargyfeirio i uned wasgaredig os mae gofalwyr i ffwrdd, diolch i adborth gwerthfawr yn ystod y cyfnod profi. Ac rydym wedi dylunio cynnyrch newydd sbon fydd yn newid y ffordd… wel, ni fedrwn ni rhannu cyfrinachau ni gyd ar unwaith, felly cadwch lygad ar beth sydd i ddod!
 

Enaid sensitif

Mae ein synhwyrydd cwympo newydd, y CairFall efo enaid sensitif yn adeiledig. Oce, dim enaid yn union ond mae o wedi eu gosod efo technoleg glyfar sydd yn galluogi i chi addasu’r sensitifrwydd i siwtio’r person. Gorchfygu un o’r problemau fwyaf efo ddarganfod cwympiadau, mae’r synhwyrydd cwympo yn hawdd rhaglennu’r sensitifrwydd i un o’r pum opsiwn ar gael. Y lleiaf actif mae rhywun, y fwyaf sensitif mae’r CairFall angen bod, ac i’r gwrthwyneb. Sbïwch ar ein fideo ar y tudalen cymorth i weld faint hawdd yw hyn i newid!

Mat llawr clyfar iawn

Mae ein mat llawr wedi eu dylunio i ffitio i mewn i unrhyw gartref, ellir darganfod fod rhywun wedi eu sefyll arno yn syth. Fel arfer yn cael eu defnyddio ar ochr y gwely i rybuddio fod rhywun wedi codi, mae yna nifer o ardaloedd arall ellir eu defnyddio. Os yr ydych yn boenus am rywun yn gadael eu cartref, pam ddim gosod yn ymyl i’r drws ffrynt i rybuddio cyn llaw? Mi ellir hyd yn oed eu gosod yn y cyntedd neu landin i rybuddio gofalwyr i rywun sydd angen cymorth i ddefnyddio grisiau.  

Dau am bris un

Ni ellir monitro nifer o ddyfeisiau fod yn haws efo’r Detect. Yn cysylltu efo padiau cadair, gwely a matiau enwresis, gallwch reoli risgiau deiliadaeth ag gwlychu. Gyda dau fewnbwn, ellir rheoli dwywaith gymaint gyda’r un ddyfais! Os yr ydych eisiau rheoli pad gwely ag mat enwresis i un person, neu gefnogi dau wahanol bobl, mi ellir rhaglennu’r Detect yn hawdd fel eich bod yn gwybod yn union pa synhwyrydd sydd wedi eu hactifadu yn ogystal â phwy mae’n perthyn i.

Yn waelod yr ardd

Os yr ydych yn rhywun sydd yn mwynhau garddio neu dreulio amser mewn adeilad allanol, ella eich bod yn boenus na fydd eich larwm personol yn gweithio os yr ydych rhy bell o’r tÅ·, le mae’r brif uned wedi eu gosod. Os oes gennych bŵer mewn adeilad allanol, ellir plygio ein Orion i mewn, sydd yn ymestyn pellter gweithio eich dyfeisiau pan yr ydych du allan o’r cartref. Ond peidiwch â phoeni, hyd yn oed os nad oes pŵer ar gael tu allan i’r prif adeilad, efo batri wrthgefn yr Orion, mi ellir eu gosod rhywle i sicrhau’r yr un gweithrediad hyd at 12 awr!

Datrysiad gadael eiddo gwahanol

Oeddech chi’n gwybod fod y Cair Contact yn disodli’r angen am ddatrysiadau gadael eiddo drud mewn rhan fwyaf o achosion? Am ffracsiwn o’r gost, mi fydd yn cymryd munudau i’w osod! Mi ellir eu troi ymlaen ag i ffwrdd gyda botwm syml. Mi ellir eu rhaglenni yn hawdd i weithio yn ystod amseroedd penodol. Mae efo’r gallu i roi amser i ofalwyr mynd i mewn neu allan o eiddo heb yrru galwad ffug. Mi ellir hefyd defnyddio’r Contact fel rhan o system gadael eiddo rhithwir, i roi amser i ddefnyddwyr mynd allan am gyfnod penodol heb yrru rhybudd, i helpu hyrwyddo annibyniaeth. Hynna i gyd mewn un ddyfais! Tydi o ddim yn fawr, ond mae o sicr yn glyfar!
 

 

Teleofal sy’n symud

Erbyn nawr, mi fyddwch chi yn ymwybodol fod y derbynnydd larwm Buzzz wrth galon ein hoffer Teleofal, yn galluogi chi i fonitro nifer o synwyryddion efo un ddyfais. Efallai eich bod yn cefnogi rhywun sydd angen pwyso’r Onyx i alw am gymorth neu eich bod angen gwybod os mae’r person rydych yn gofalu am wedi agor drws neu heb ddychwelyd i’w gwely yn y nos. Ond oeddech chi yn gwybod fod ein hoffer yn gludadwy, a gellir eu mynd efo chi pan rydych yn ymweld â ffrindiau a theulu neu hyd yn oed yn gwario noson i ffwrdd. Mi rydych gwirioneddol yn gallu parhau i ofalu unrhyw le!
 

 

Cadwch eich trwyn allan

Ydych chi eisiau cadw eich anifeiliaid anwes allan o gypyrddau ble mae eu bwyd yn cael eu cadw? Ella eich bod eisiau gwybod pan fydd y drws o dan y sinc yn cael eu hagor, i gadw eich plant bach i ffwrdd o’r cannydd a phethau glanhau? Ydych chi eisiau rhywun fod yn ymwybodol bob tro yr ydych yn agor y drôr danteithion? Mae’r synhwyrydd drws Contact yn wirioneddol amlbwrpas sydd yn galluogi i chi fod yn greadigol efo sut yr ydych yn defnyddio’r ddyfais!

Diogelwch ar stepen y drws

 
 
 
Mae’r Chime mor amlbwrpas, gellir ei ddefnyddio hyd yn oed i gefnogi pobl sydd mewn perygl o alwyr ffug ac ymwelwyr digroeso. Trwy osod y ddyfais yn strategol ac yn ddisylw wrth y drws ffrynt, gellir ei bwyso cyn gynted ag y bydd angen i rywun alw am help, heb dynnu sylw. Ar ôl i’r botwm gael ei bwyso, gall anfon galwad dawel drwodd i ganolfan fonitro, lle gall y gweithredwr wrando a galw am y gefnogaeth sydd angen, fel yr heddlu. Mae pob galwad yn cael ei recordio hefyd, felly gellir ei defnyddio mewn tystiolaeth, sydd yn caniatáu lefel uwch o gefnogaeth.
 

 

Troi o gwmpas

Mae’r Onyx, ein larwm personol, ar gael i wisgo ar yr arddwrn yn ogystal â’r gadwyn gwddf. Mae rhan fwyaf o bobl yn gwisgo fel y byddent yn gwisgo eu horiawr arddwrn gyda’r wyneb yn dangos at i fynnu. Wrth droi’r Onyx rownd, mae’n bosib creu mwy o wrthwynebiad pan mae’r botwm yn cael eu pwyso, sydd yn neud yn haws i’w ddefnyddio. Mae gwisgo ar y fraich sydd yn cael eu defnyddio’r lleiaf hefyd yn meddwl eich bod yn gallu pwyso’r Onyx efo’r llaw gryfach!

Dim ond nodyn atgoffa

Mae pob un o’n synwyryddion yn rhyngweithredol â darparwyr TEC eraill, i roi hyblygrwydd i chi ddarparu atebion sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Gellir rhaglennu negeseuon wedi’u recordio i’ch Lifeline, a all gael eu chwarae gan actifadu’r synhwyrydd. Gellir defnyddio’r Contact, ein synhwyrydd drws a ffenestr amlbwrpas, gyda negeseuon wedi’u recordio i helpu i hyrwyddo annibyniaeth i’r rhai sy’n byw gyda dementia. Gellid atgoffa’r person sy’n cael ei gefnogi i gloi’r drws neu i gofio ei allweddi pan fyddant yn mynd allan yn ystod y dydd. Er mwyn hyrwyddo diogelwch yn ystod y nos, gall neges helpu i’w hatgoffa efallai nad yw’n amser addas i adael y tÅ·.

Dewis arall i larwm personol

Rydym yn deall nad fod pawb o hyd yn gallu gwisgo larwm personol, neu fod gwell gennant beidio. Mi all ein botwm gosod yn unrhyw le, y Chime, cal ei leoli i ardaloedd sydd efo risg uchel, fel gall codi rhybudd os mae’r person sydd yn cael eu cefnogi angen help. Mi ellir hyn fod drws nesaf i’r gwely neu, gan ei fod yn ddiddos, hyd yn oed yn y gawod neu’r sied ardd. Mae’r Chime yn dod efo tri opsiwn gosod: gludiog, sgriw ag hyd yn oed petris magnet. Mae’r opsiwn magnet yn golygu fod y botwm yn gallu cael eu symud o gwmpas y cartref neu’r ardd, ac wedi ei osod yn agos i le mae’r person, ellir teimlo yn saff heb y rhaid am sawl ddyfais.  

Mwy na jest synhwyrydd drws

Contact yw ein synhwyrydd drws a ffenestr, ellir ei ddefnyddio tu fewn neu du allan i’r cartref. Ond mi all ei ddefnyddio ar unrhyw fath o ddrws! Gan gysylltu’r Contact ar gypyrddau bwyd, oergell neu gabinet feddyginiaethau fedri ofalwyr lleol cael wybod bod drws wedi ei agor. Os yr ydych yn poeni am faethiad rywun yn byw ar ben ei hun, all y Contact cael ei osod ar oergell neu gwpwrdd bwyd er mwyn hysbysu’r ganolfan monitro os nad fod y drws wedi ei agor erbyn amser penodol, neu o fewn ffrâm amser arbennig, pan fydd yn gysylltiedig gyda Lifeline.

Larwm atgoffa

Mae’r Buzzz yn cysylltu ein holl ddatrysiadau, drwy hysbysu gofalwyr lleol pan fod yna rybudd gan un o’n synhwyrydd Teleofal cysylltiedig. Ydych chi wedi sylweddoli fod yna opsiwn larwm yn adeiledig hefyd? Mi all hyn cael ei ddefnyddio i atgoffa’r gofalwyr pan fod yn amser i’r person maent yn gofalu am angen cymryd ei feddyginiaeth.

Ffrind gorau dyn

Mae’r Request yn wych i’r rhai sydd â deheurwydd neu symudedd isel, gan eu bod gallu pwyso’r botwm coch mawr yn hawdd i galw am help. Ond oeddech chi’n gwybod bod y cynnyrch hwn yn addas i anifeiliaid hefyd? Gellir hyfforddi cŵn cefnogi i allu alw am help i’w perchnogion os ydyn nhw’n cael eu hunain mewn anhawsterau, fel trawiad epileptig. Gan fod y Request yn ddi-wifr ac y gellir ei oosod ar unrhyw wyneb fflat, gellir dewis y safle fwyaf cyfleus iddo.

Ymestyn eich gwasanaeth..

Gall yr Orion ymestyn yr ystod gweithio synhwyryddion Teleofal hyd at 1 cilomedr. Mae hyn yn ffordd wych o ddarparu pecyn Teleofal i rywun sy’n byw mewn adeilad allanol neu garafán heb linell ffôn, i ffwrdd o’r prif adeilad lle mae’r ‘Lifeline’ wedi ei osod. Mae hefyd yn ateb gwych i bobl sy’n byw mewn tai mawr neu sydd â gerddi hir hefyd!

Ding dong!

Mae’r Chime yn ddiddos ac mae ganddo amddiffyniad tymheredd isel, felly gellir ei ddefnyddio y tu allan i’r cartref fel cloch drws! Defnyddiwyd hwn i helpu i sicrhau diogelwch mewn cartrefi byw cyda cymorth, lle mae’r Chime wedi’i osod y tu allan a’i gysylltu â’r Buzzz, gan gynghori’r staff yn ddisylw bod ymwelydd wrth y drws.

Oes gennych chi Hac i rannu?!

Rhannwch o gyda ni ar Twitter gan ddefnyddio #telecairhack, byddem wrth ein bodd clywed sut rydych chi’n defnyddio cynhyrchion Cair.