Defnyddio plastig untro i greu tai gwydr ffrâm oer

02/08/21

Mi rydym yn freintiedig a balch iawn bod ein staff yn angerddol am fod yn ffeind i’r amgylchedd a chymryd ein hethos i’r gymuned ehangach yn ogystal ag yn ei waith. Mae unrhyw blastig untro sydd yn cael eu cynhyrchu gan y busnes yn cael eu casglu gan ein tîm creadigol sydd yn ail-bwrpasu yn eu cartrefi, gerddi ag hyd yn oed mewn prosiectau cymunedol  

Mae ein casin i’r Onyx yn cael eu gludo mewn hambwrdd plastig, sydd wedi cael eu hail-bwrpasu yn greadigol can ein cydweithwyr. Mae ein Rheolwr Cynhyrchu, Jean wedi bod yn creu tai gwydr ffrâm oer allan o’r hambyrddau i gyflenwi i randiroedd lleol. Os yr ydych chi neu grŵp efo diddordeb yn y fframiau oer, neu os ydych eisiau rhai o’n hambyrddau plastig i wneud rhai eich hun, plîs cysylltwch â ni.

Cyfarwyddiadu

I gyd sydd ei angen yw ei’n hambyrddau plastig wast, cysylltiadau cebl ac offer syml

Offer

  • Cysylltiadau cebl
  • Fflachlamp chwythu cegin
  • Sgiwer metel
  • Torwyr bach
  • Gefelen fach
  1. Cymerwch tua phum hambwrdd plastig a’u pentyrru gyda’i gilydd i ffurfio “bricsen” (gwnewch wyth o’r rhain)
  2. Cynheswch un pen i’r sgiwer metel ac yna gwnewch bedwar twll yn ochrau hiraf chwe bricsen tua 3cm o’r top a’r gwaelod. Rhowch ddwy fricsen i un ochr (bydd y rhain yn ffurfio’r caead yn ddiweddarach).
  3. Leiniwch ddwy fricsen ochr yn ochr â’u cysylltu gyda’i gilydd gan ddefnyddio dau glymiad cebl (gwnewch ddau o’r rhain)
  4. Cysylltwch y ddwy fricsen ddwbl â’r ddwy fricsen sengl (gyda’r cysylltiadau cebl) ar bob ochr i greu bocs.
  5. Gwnewch dyllau i waelod y bocs gan sicrhau eu bod yn ddigon mawr i ffitio peg pabell drwyddo. Fe wnes i un yng nghanol pob bricsen.
  6. Nawr gan weithio ar y ddwy fricsen a roddwyd i un ochr yn gynharach, rhowch bedwar twll i mewn i un ochr o bob bricsen, dau ar yr ochr hiraf a dau ar yr ochr fyrraf. Cysylltwch yr ochrau hiraf ynghyd â dau o’r cysylltiadau cebl. Gan weithio ar y bocs, gwnewch ddau dwll ym mhob bricsen ar yr ochr uchaf a chysylltwch y caead â phedwar clymiad cebl, peidiwch â chau’r rhain yn rhy dynn neu ni fydd y caead yn agor ac yn cau’n iawn.
  7. Er mwyn sicrhau’r ffrâm oer yn ei lle, defnyddiwch begiau pabell i glymu i’r ddaear.

Diwedd.