Tri Theulu Go Iawn. Tair Stori Go Iawn. Un Ateb Pwerus. 
Yn Cair, rydym yn gwybod bod diogelwch yn y cartref yn golygu mwy na thechnoleg yn unig, mae’n golygu hyder, tawelwch meddwl a’r rhyddid i fyw’n annibynnol.
Rydym yn falch o rannu tair astudiaeth achos newydd sy’n dangos sut mae’r Vibe wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd sy’n delio â cholled clyw, heriau symudedd a gofal dros nos. Mae pob stori’n dangos sut y gall cymorth syml a dibynadwy drawsnewid bywyd bob dydd.
Mandy – Diogelwch Syml ac Effeithiol i Bobl â Cholled Clyw
Mae Mandy yn fyddar iawn ac yn byw’n annibynnol. Gan nad oedd yn gallu clywed ei larymau mwg, roedd risg wirioneddol y gallai unrhyw actifadu mynd heb ei sylwi, ac roedd hyn hefyd yn achosi pryder diangen a galwadau i’w merch. Roedd angen ateb clir, dibynadwy fysa yn rhoi hyder ar Mandy a’i theulu. Darganfyddwch sut helpodd y Vibe i adfer tawelwch meddwl iddynt.
William a’i Wraig – Creu Amgylchedd Dros Nos Fwy Diogel gyda’r Vibe
Mae gan William symudedd cyfyngedig ac mae’n cysgu i lawr grisiau mewn gwely ysbyty, tra bod ei wraig, sy’n byw â cholled clyw, yn cysgu i fyny’r grisiau. Pe bai William angen help yn ystod y nos, nid oedd sicrwydd y byddai hi’n ei glywed. Roedd y cwpl eisiau sicrwydd y gallent barhau i fyw’n ddiogel yn eu cartref heb beryglu gofal na hyder. Darllenwch sut y darparodd y Vibe dawelwch meddwl dibynadwy dros nos.
Heather a’i Theulu – Hyder a Thawelwch Meddwl i Ofalwyr â Cholled Clyw
Ar ôl cael ei rhyddhau o’r ysbyty, roedd Heather am ddychwelyd adref yn hytrach na symud i lety gwarchod. Roedd ei symudedd yn gyfyngedig, felly roedd ei phlant yn aros dros nos i’w chefnogi. Mae gan fab Heather golled clyw, ac roedd yn aml yn ei ffeindio hi’n anodd ei chlywed os byddai’n galw am help yn ystod y nos, hyd yn oed gyda system derbyn rhybuddion mewnol. Yn ddealladwy, roedd y teulu’n teimlo’n bryderus am ddiogelwch yn ystod y nos. Gwelwch sut y darparodd y Vibe sicrwydd pan oedd ei angen fwyaf.
Darllenwch y Straeon Llawn
Mae’r astudiaethau achos hyn yn dathlu nid yn unig y dechnoleg, ond y bobl y tu ôl iddi; teuluoedd sy’n benderfynol o aros yn ddiogel, yn annibynnol ac yn hyderus yn eu cartrefi.
👉 Archwiliwch y tair astudiaeth achos yma: https://we-cair.com/cefnogaeth/astudiaethau-achos/?lang=cy
Os ydych yn cefnogi unigolion sy’n byw â cholled clyw neu anghenion gofal cymhleth, mae’r enghreifftiau bywyd go iawn hyn yn dangos sut y gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth dwys.
