Rydym wedi neud o!

28/04/20

Rydym wedi cyflawni ardystiad ISO45001, y safon ddiogelwch newydd. Dim newyddion mawr efallai y byddwch chi’n meddwl, ond meddyliwch eto. Fis Ionawr diwethaf rhoddodd ein Rheolwr-Gyfarwyddwr, Mohammed Chaudhary, gyfle i ddau o’i staff, nad oedd yn arbenigwyr SHEQ, i geisio am yr ISO45001, y safon ddiogelwch newydd yn lle’r 18001. Nid oedd y disgwyliadau yn arbennig o uchel, ond bysedd wedi croesi . Mohammed Chaudhary wy allai fod wedi rhagweld, mewn llai na blwyddyn, y byddent yn llwyddo i gyflawni ardystiad ISO45001, gyda DIM anghydffurfiaeth ar eu hymgais gyntaf “Rhaid i chi ymddiried yn eich pobl, os ydych chi’n gweld potensial mae’n rhaid i chi ei annog. Roeddwn i’n disgwyl y byddent yn llwyddiannus, ond mae’n rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn i erioed wedi disgwyl i’r canlyniad fod yn ddi-ffael! Dwi wrth fy modd. Nawr eu bod nhw wedi gosod y bar mor uchel, maen nhw ymlaen â’u her nesaf”, meddai Mohammed. Mae Alison, Rheolwr Adnoddau Dynol, a Jo, Cynorthwyydd Gweinyddol (a chyn-lanhawr) yn dal i fod ar gwmwl naw dros y canlyniad. “Roedd y bos wedi rhoi siawns i ni. Rydym yn falch iawn ein bod wedi cael llwyddiant ar ein tro cyntaf. Roedd yn ddiwrnod nerfus inni pan gyrhaeddodd yr archwilydd i ddechrau’r archwiliad dros 3 diwrnod. Roeddem yn teimlo ein bod wedi gwneud digon i sicrhau’r ardystiad, ond roedd y diwrnod olaf yn eithaf emosiynol. Wrth ddod i ben gyda’r archwilydd nododd ei bod hapus dros ben gan yr hyn a welodd, gan ein galw’n enghraifft ddisglair o’r hyn mae pobl sydd dim yn arbenigwyr yn gallu cyflawni efo’r dull cywir. Ni allem ei gredu. Cawsom ddathliad bach i nodi’r achlysur. Alison Barnes & Joanne Clegg Mae wedi bod yn daith ddiddorol. Nid oeddem yn gyfarwydd â safonau neu ofynion ISO o gwbl, roedd yn ymddangos fel her enfawr i ddechrau. Gydag ychydig o hyfforddiant, a rhywfaint o arweiniad gan eraill, gwnaethom ei weithio allan a’i wneud yn berthnasol i’n cwmni ni. Ni ddylid tanamcangyfrif cefnogaeth eraill, o’r Rheolwr-gyfarwyddwr i’r rhai sy’n gweithio ar lawr y ffatri. Ni allem fod wedi ei wneud heb ein staff cynhyrchu anhygoel, a oedd mor barod i helpu, ac eisiau cymryd rhan, gan ein helpu i wneud iddo ddigwydd. Ni allwn ddiolch digon iddynt.