Rywun yn gweithio gartref?

04/05/20

Mae fy nhaith Cair yn dal reit ifanc, ac mae wedi bod yn wahaniaeth mawr i sut mae’r rhan fwyaf o swyddi newydd yn cychwyn. Efo’r cloi mawr yn i le, mae wedi bod dros 7 wythnos ers i mi weld unrhyw gwsmeriaid neu gydweithwyr (dwi’n eich colli chi gyd!), yn sicr nid sut roeddwn i’n disgwyl y misoedd cyntaf y rôl fod. Nid oeddwn i chwaith yn disgwyl gweld y lefel o gydweithredu sy’n mynd i mewn i ddylunio cynnyrch. Mae yna rai pethau cyffrous iawn yn digwydd y tu ôl i’r llenni yn Cair, ac er ein bod ni’n aros ar wahân yn gorfforol, nid wyf erioed wedi teimlo’n agosach at y weithred.

Mae gweithio ar gynhyrchion y dyfodol yn gyffrous iawn, ac rwyf wedi bod wrth fy modd yn gweld sut mae pawb yn cymryd rhan yn y broses. Mae profiad ac arbenigedd y tîm peirianneg a dylunio gyda phrofiad y rhai sy’n wynebu’r cwsmeriaid, yn sicrhau bod pob manylyn olaf o’r cynhyrchion newydd sydd yn cael ei dylunio yn cael eu hystyried. O ddyluniad i nodweddion y mae gwir angen, ni adewir unrhyw garreg heb ei throi. Rhan fawr o swydd pawb yw sicrhau ein bod yn cyfrannu at offer y byddai pawb ei eisiau yn eu cartrefi, ac am y tro, wrth i ni weithio yn ein hystafelloedd byw, ceginau ac ystafelloedd gwely ein hunain, rydym i gyd yn cael ein hysbrydoli yn fwy nag erioed.

Y cyfraniad pwysicaf o hyd yw cyfraniad ein cwsmeriaid, a’r bobl rydych chi’n eu cefnogi; heb wybod yr heriau sydd gennych a’r atebion sydd eu hangen arnoch, byddai darn pwysig ar goll bob amser. Mae Cair yn ymfalchïo mewn gweithio gyda’n cwsmeriaid, a byddem yn croesawu unrhyw awgrymiadau neu syniadau sydd gennych, anfonwch e-bost i mi: lowri@we-cair.com. Fel y dywedaf, mae’r ffordd o’n blaen yn gyffrous, a byddem wrth ein bodd pe byddech chi’n ymuno a’r daith!