Rydym am adael chi fewn ar gyfrinach…
Mae’r Buzzz wedi cael ei ddisodli gan y Notifier, y derbynnydd sydd wedi eu dylunio i’r dyfodol digidol. Nid yn unig wedi gwella, mae’n newydd.
Notifier
Derbynnydd Larwm Cludadwy
Mae’r Cair Notifier yn dderbynnydd larwm cludadwy arloesol. Wedi’i gynllunio i wneud gofalu yn haws ac yn symlach. Gellir defnyddio’r Notifier o senarios gofalu am un person y holl ffordd i gartrefi gofal, gan gysylltu â hyd at 150 o ddyfeisiau a storio cymaint â 30 o rybuddion ar y tro. Bydd y gofalwr yn derbyn rhybuddion uniongyrchol ar yr Notifier, gan ddweud yn union o ble mae’r rhybudd yn dod, gan alluogi ymateb prydlon sydd wedi’i dargedu






Moddau Rhybuddio Amryw – Mae yna dri dull rhybuddio ar y Notifier – sain, dirgryniad a strôb, a gellir droi ymlaen neu i ffwrdd yn hawdd fel dewiswyd
‘Nurse Call’ – Os yw nifer o Notifiers yn cael eu defnyddio gyda’i gilydd, gallant gyfathrebu â’i gilydd i hysbysu Notifier eraill os yw gofalwr yn delio â rhybudd. Nodwedd effeithlon sy’n arbed amser i nyrsys a gofalwyr
Modd dargyfeirio – Os nad yw rhybudd yn cael eu cydnabod o fewn yr amser oedi sydd wedi eu rhaglennu, mi ellir eu dargyfeirio i uned Teleofal, neu Notifier arall. Mae yna opsiwn ‘i ffwrdd’ ar gyfer adegau pan na fydd yr ofalwyr yn bresennol
Mae gan y Notifier batri aildrydanadwy sydd yn parhau hyd at 3 diwrnod ag dim ond yn cymryd 2.5 awr i wefru’n llawn

SOS – Gellir pwyso botwm SOS brys ar yr Notifier i rybuddio Notifier neu uned Teleofal arall os oes angen cefnogaeth ychwanegol




Gellir addasu’r Notifier ac mae ganddo lawer o nodweddion a all helpu i wneud gofalu yn broses haws. Mae yna hefyd gloc larwm adeiledig ac opsiwn i amddiffyn rhag rhywun heb awdurdod gwneud newidiadau trwy ddefnydd cyfrinrif

Gydag arddangosfa sgrin LCD gyffwrdd lliw o 2.6”, mae’r Notifier yn reddfol iawn i’w ffurfweddu a’i ddefnyddio. Mae’r modd clonio yn galluogi data’r dyfeisiau a gosodiadau cael eu trosglwyddo yn hawdd o un Notifier i un arall.
Mae’r derbynnydd larwm ysgafn, cludadwy’r maint perffaith i’w gario yn eich poced. Mae hefyd yn cynnwys clip belt a llinyn ar gyfer opsiynau gwisgo ychwanegol. Mae’r Notifier hefyd yn atal sblash sy’n eich galluogi i’w ddefnyddio yn y mwyafrif o amgylcheddau.

Mae’r holl gamau gweithredu a rhybuddion yn cael eu recordio a’u stampio â dyddiad, a gellir eu gweld ar sgrin yr Notifier neu eu huwchlwytho i gyfrifiadur personol ar gyfer adroddiadau rheoli.
Mae’r Notifier ar gael mewn du neu wyn
- Sgrin cyffwrdd lliw LED
- Gwefru diwif
- Bywyd batri hyd at 3 diwrnod
- Nodwedd clonio
- Dargyfeirio i uned teleofal
- Opsiwn i ddargyfeirio pan i ffwrdd
- Nodwedd SOS
- Clirio galwadau yn awtomatig ar Notifier arall
- Cefnogi hyd at 150 dyfeisiau cysylltiedig
- Opsiynau rhybuddio sain, digrynu a strôb
- Amddiffyn pin i amddiffyn gosodiadau
- Hanes rhybuddio
- Gwrth-ficrobaidd, hawdd glanhau ac yn gwrthsefyll dŵr
- Opsiwn distawi
- Dangosydd statws batri a gwefru
- Nodwedd profi i ddarganfod cryfder signal
Beth mae ein cwsmeriaid yn ei ddweud
“Mae’r galwr nawr y prif alwr sydd yn cael eu defnyddio gan OneCall, mae’r tîm gosod wrth eu bodd efo faint hawdd yw eu rhaglennu ag yn hawdd eu defnyddio, mae’r arddangosaf smart gyda’r bywyd batri gwell a’i dibynadwyedd wedi cael eu derbyn yn dda iawn gydag ein darparwyr gofal sydd yn defnyddio’r system yn eu cartrefi gofal ar draws y fwrdeistref.” / Cyngor Bwrdeistref Stockton
O’r Newyddion
Cau Lawr Dros y Nadolig 2024
Cau Lawr Dros y Nadolig – 20 Rhagfyr i 6 Ionawr Bydd ein swyddfeydd yn cau 4:30pm ar y 19eg o Ragfyr a byddem yn ail agor 6ed Ionawr 2025. Ein dyddiad cludo olaf cyn i ni gau fydd y 19eg o Ragfyr;...
Ailgylchu, efo Cair
Ailgylchu efo Cair Mae gofalu am yr amgylchedd yn bwysig iawn i bob un ohonom yn Cair. Rydym yn cymryd nifer o gamau i leihau ein hôl troed carbon a gwella ein perfformiad amgylcheddol. Rydym yn...
Cau Lawr Dros y Nadolig 2023
Cau Lawr Dros y Nadolig – 21 Rhagfyr i 2 Ionawr Mae o wedi bod yn flwyddyn brysur arall i Cair gan ein bod wedi bod yn dathlu ein penblwydd yn 10 oed ag yn lansio nifer o offer newydd. O'r 21ain o...