Flood
Synhwyrydd Llifogydd
Y Flood yw’r ffordd luniaidd a disylw i ganfod llifogydd a dŵr yn gollwng. Yn ddiddos i safon IP67, gellir ei ddefnyddio dro ar ôl tro. Os ydych chi yn gofalu am bobl sy’n byw’n annibynnol neu mewn cartref chymorth, bydd y Flood yn sicrhau bod y rhybudd yn cael ei godi.
Mae’n ddelfrydol ar gyfer ei ddefnyddio mewn ystafelloedd ymolchi, ceginau neu unrhyw fannau sy’n dueddol o lifogydd i rybuddio bod tapiau heb ei difodd, neu sinciau neu doiledau wedi’u blocio. Nid oes angen gosodiad na ffitiad. Dylid ei roi ar wyneb gwastad yn agos at y bath, sinc, toiled, neu ble bynnag y mae llifogydd neu ollyngiad yn debygol o ddigwydd.
Mae rhaglennu yn hawdd, ac mae lliain gwlyb yn ddigon i’w actifadu.
Mae gan Flood bellter gweithio hyd at 600m, a 5 mlynedd bywyd batri y gellir ei newid.
Mae’r cysylltiadau aur-blatiog yn cael eu codi’n ffracsiynol uwchben y llawr er mwyn osgoi galwadau diangen.
O’r Newyddion
Rywun yn gweithio gartref?
Mae fy nhaith Cair yn dal reit ifanc, ac mae wedi bod yn wahaniaeth mawr i sut mae'r rhan fwyaf o swyddi newydd yn cychwyn. Efo'r cloi mawr yn i le, mae wedi bod dros 7 wythnos ers i mi weld unrhyw...
Rydym wedi neud o!
Rydym wedi cyflawni ardystiad ISO45001, y safon ddiogelwch newydd. Dim newyddion mawr efallai y byddwch chi'n meddwl, ond meddyliwch eto. Fis Ionawr diwethaf rhoddodd ein Rheolwr-Gyfarwyddwr,...