Contact

Synhwyrydd Drws/Ffenestr

Contact, ein datrysiad monitro drws a ffenestri arloesol, sy’n cynnig cymaint mwy nag yr ydych wedi arfer efo. Datrysiad rhyngweithredol, diddos a fydd yn ffitio i mewn i ble bynnag mae rhywun yn dewis galw adref. Mae’r Contact yn cynnig nodweddion sy’n unigryw i unrhyw ddyfais sydd yn monitro allanfa.

Mae’r dyluniad lluniaidd, diwifr yn cynnwys cyswllt magnetig a dyfais canfod. Mae gan Contact sawl dull gweithredu sy’n golygu un ddyfais ar gyfer nifer o ddefnyddiau gwahanol. Mae’n syml i’w drefnu ac yn hawdd ei ddefnyddio. Mae modd gosodwr yn caniatáu ichi sefydlu’r ddyfais yn iawn, y tro cyntaf, bob tro.

Mae’r dyluniad yn ddiddos ac yn gwrthsefyll tymheredd isel, sydd yn caniatáu iddo gael ei ddefnyddio y tu allan os oes angen, gan roi mwy o hyblygrwydd i chi nag erioed.

Gellir gosod y Contact ar ffrâm drws neu ffenestr gyda’r magnet, neu’r ffordd arall o gwmpas. Gyda nifer o opsiynau gosod, gellir gosod y Contact yn ludiog neu ei sgriwio.

Mae gan y ddyfais luniaidd, ddiwifr ddau fotwm. Mae’r botwm bach yn switsh ymlaen/i ffwrdd, a gellir ei anablu os oes angen. Gall gofalwyr ddefnyddio’r botwm mawr i fynd i mewn neu adael eiddo heb drosglwyddo rhybudd. Gall y ddyfais arloesol hon hefyd anfon rhybudd ailadroddus os nad yw’r drws/ffenestr wedi cau.

  • Botwm ymlaen/i ffwrdd hawdd ei ddefnyddio
  • Modd mynediad/allanfa gofalwr
  • Rhybudd drws wedi aros yn agored
  • Rhybudd drws wedi aros yn agored, ailadroddwyd
  • Cydnaws gyda synhwyryddion ‘virtual’
  • Modd gosodwr
  • Gosodiad sgriw neu ludiog
  • Batri gyda oes waith o 3 mlynedd
  • Pellter gweithio hyd at 600m

Beth mae ein cwsmeriaid yn ei ddweud

“Wrth ein bodd efo’r synhwyrydd drws! Maent yn bleser gweithio efo.”

O’r Newyddion

Cau Lawr Dros y Nadolig 2025

Cau Lawr Dros y Nadolig 2025

Bydd ein swyddfeydd yn cau am 5pm ar 23ain o Ragfyr ac fe ddychwelwn ar 5ed o Ionawr 2026. Ein dyddiad cludo olaf cyn cau bydd 23ain o Ragfyr; bydd unrhyw archebion a dderbynnir ar ôl 22ain o Ragfyr...

Diwrnod ym Mywyd Sian yn Cair UK

Diwrnod ym Mywyd Sian yn Cair UK

Mae Sian wedi bod gyda ni ers Tachwedd 2024 ac yn y cyfnod hwnnw mae hi wedi gadael ei marc anhygoel ar y busnes, ein cydweithwyr a’n cwsmeriaid. Mae hi’n rhan annatod o’n tîm, ac er bod y mwyafrif...