Flood

Synhwyrydd Llifogydd

Y Flood yw’r ffordd luniaidd a disylw i ganfod llifogydd a dŵr yn gollwng. Yn ddiddos i safon IP67, gellir ei ddefnyddio dro ar ôl tro. Os ydych chi yn gofalu am bobl sy’n byw’n annibynnol neu mewn cartref chymorth, bydd y Flood yn sicrhau bod y rhybudd yn cael ei godi.

Mae’n ddelfrydol ar gyfer ei ddefnyddio mewn ystafelloedd ymolchi, ceginau neu unrhyw fannau sy’n dueddol o lifogydd i rybuddio bod tapiau heb ei difodd, neu sinciau neu doiledau wedi’u blocio. Nid oes angen gosodiad na ffitiad. Dylid ei roi ar wyneb gwastad yn agos at y bath, sinc, toiled, neu ble bynnag y mae llifogydd neu ollyngiad yn debygol o ddigwydd.

Mae rhaglennu yn hawdd, ac mae lliain gwlyb yn ddigon i’w actifadu.

Mae gan Flood bellter gweithio hyd at 600m, a 5 mlynedd bywyd batri y gellir ei newid.

Mae’r cysylltiadau aur-blatiog yn cael eu codi’n ffracsiynol uwchben y llawr er mwyn osgoi galwadau diangen.

O’r Newyddion

Cau Lawr Dros y Nadolig 2023

Cau Lawr Dros y Nadolig 2023

Cau Lawr Dros y Nadolig – 21 Rhagfyr i 2 Ionawr Mae o wedi bod yn flwyddyn brysur arall i Cair gan ein bod wedi bod yn dathlu ein penblwydd yn 10 oed ag yn lansio nifer o offer newydd. O'r 21ain o...

Seibiannau Byr ‘The Trees’

Seibiannau Byr ‘The Trees’

Mae seibiannau byr 'The Trees' yn wasanaeth gofal 12 ystafell sydd yn rhoi cymorth i oedolion efo anableddau dysgu yn gymuned Hinckley yn Swydd GaerlÅ·r. Yn Dachwedd 2020 gafodd yr adeilad eu...