Detect

Synhwyrydd Deiliadaeth/Enwresis

Mae’r Cair Detect syml ond clyfar yn caniatáu monitro deiliadaeth gwelyau/chadeiriau ac enwresis, i gyd mewn un uned! Wedi’i ddylunio i fod yn hawdd eu defnyddio, gall y Detect ddarparu arwydd gweledol a chlywadwy ar gyfer sicrwydd ychwanegol i ddefnyddwyr a gofalwyr.

Mae’n llawn dop o nodweddion gan gynnwys ‘canslo ar yr uned’ a chydnawsedd synhwyrydd ‘virtual’. Mae gan y Detect hefyd opsiynau amser absenoldeb, yn amrywio o 0.5 eiliad i 30 munud.

I helpu gosodwr, gellir trefnu y Detect yn hawdd gan ddefnyddio’r deial sydd yn syml i’w ddefnyddio. Mae yna dau fewnbwn terfynell RJ12 er mwyn cysylltu fwy o synhwyryddion.

Gellir defnyddio’r Detect i fonitro deiliadaeth cadair neu wely. Defnyddiwch gyda’n pad Sit/Sleep i gael y canlyniadau gorau.

Mae gan Detect bellter gweithio hyd at 600m, a batri gyda oes waith o 3 mlynedd.

Er mwyn canfod gwlychu, fel anymataliaeth, cysylltwch â’n mat Enuresis am ein datrysiad llawn.

  • Botwm ymlaen/i ffwrdd hawdd ei ddefnyddio
  • Gall mewnbynnau weithio gyda’i gilydd neu ar wahân
  • Opsiwn canslo ar yr uned
  • Opsiwn sain
  • Arwydd LED
  • Hawdd i’w ffurfweddu
  • Pellter gweithio hyd at 600m

O’r Newyddion

Gorffennaf Di-Blastig

Gorffennaf Di-Blastig

Mewn llai na 30 blynedd mae yna bosib fydd yna mwy o blastig, wrth bwysau, na physgod yn y môr. Dychmygwch hynny! Ond nid os rhaid i'w ddychmygu. Dyna yw'r gwir, mae o'n digwydd rŵan. Rydym i gyd yn...

Blwyddyn ymlaen….

Blwyddyn ymlaen….

Maen nhw'n dweud fod 'hindsight yn 2020', er ychydig ohonom ni allai fod wedi rhagweld beth fyddai'n digwydd yn y flwyddyn 2020. Roeddwn yn ddigon ffodus i deithio ar ddechrau'r flwyddyn honno; ar y...