Flood
Synhwyrydd Llifogydd
Y Flood yw’r ffordd luniaidd a disylw i ganfod llifogydd a dŵr yn gollwng. Yn ddiddos i safon IP67, gellir ei ddefnyddio dro ar ôl tro. Os ydych chi yn gofalu am bobl sy’n byw’n annibynnol neu mewn cartref chymorth, bydd y Flood yn sicrhau bod y rhybudd yn cael ei godi.
Mae’n ddelfrydol ar gyfer ei ddefnyddio mewn ystafelloedd ymolchi, ceginau neu unrhyw fannau sy’n dueddol o lifogydd i rybuddio bod tapiau heb ei difodd, neu sinciau neu doiledau wedi’u blocio. Nid oes angen gosodiad na ffitiad. Dylid ei roi ar wyneb gwastad yn agos at y bath, sinc, toiled, neu ble bynnag y mae llifogydd neu ollyngiad yn debygol o ddigwydd.
Mae rhaglennu yn hawdd, ac mae lliain gwlyb yn ddigon i’w actifadu.
Mae gan Flood bellter gweithio hyd at 600m, a 5 mlynedd bywyd batri y gellir ei newid.
Mae’r cysylltiadau aur-blatiog yn cael eu codi’n ffracsiynol uwchben y llawr er mwyn osgoi galwadau diangen.
O’r Newyddion
Pwysigrwydd Lluniadu
Yn oes fodern technoleg a datblygiadau cyfrifiadurol mae'n hawdd anghofio am sgiliau mwy gostyngedig a sylfaenol, fel lluniadu ac yn benodol, y pwysigrwydd sydd ganddo o hyd yn y broses datblygu...
Mae’n Wythnos Ailgylchu!
Mae pob wythnos yn wythnos ailgylchu i ni. Mae gennym gred fawr mewn gwneud be allwn i helpu i ddiogelu'r amgylchedd. Ar ôl i chi ymuno â chwmni fel Cair, lle mae'r ymrwymiad i ddiogelu'r amgylchedd...
Diwrnod ym mywyd Peiriannydd Datblygu
Rydyn wedi bachu ar y cyfle i holi Tom, un o'n Peiriannydd Datblygu ar ei rôl, sut y gellir defnyddio codio i greu sŵ a sut mae'n gwneud i'r byd fynd o gwmpas Beth yw eich rôl? Rwy’n beiriannydd...