CairFall

Synhwyrydd Cwympo

Gyda phum lefel sensitifrwydd, mae’r CairFall yn synhwyrydd cwympo ddeallus sydd yn hawdd eu ffurfweddu sydd yn addas i fwy o ddefnyddwyr nag erioed! Rydym wedi gweithio yn agos efo nifer o ddefnyddwyr i greu ateb codymu amryddawn, ellir eu gwisgo ar yr arddwrn neu wddf. Yn hybu annibyniaeth a hyder, mae’r ddyfais glyfar, ysgafn yn galluogi unigolion i symud o gwmpas eu cartref, yn ymwybodol fydd rhybudd yn cael eu codi os maent yn dioddef codwm caled. Mae’r botwm sydd yn hawdd eu pwyso hefyd un alluogi’r defnyddwyr i alw am gymorth.

Mae yna pum gosodiad sensitifrwydd i deilwra’r ddyfais i lefel gweithgaredd y defnyddwyr. Gan ddefnyddio ein system LED, mae’n hawdd ag yn syml i raglenni’r CairFall gyda’r botwm. Efo’r opsiwn canslo, mi ellir y defnyddwyr pwyso’r botwm tair gwaith i ganslo’r larwm. Mae’n hawdd iawn i droi’r nodwedd yma i ffwrdd hefyd, fel gellir newid i anghenion y defnyddwyr.

Mae dirgrynu ag LED yn rhoi sicrwydd i’r defnyddwyr yn syth fod cymorth ar eu ffordd, ac mae’r casin diddos yn meddwl gellir gwisgo’r CairFall rhywle yn y cartref, hyd yn oed bath neu gawod! Gyda strap elastig, mae’n teimlo’n gyfforddus ar yr arddwrn ac mae yna opsiwn gwddf ar gael hefyd.

Yn defnyddio’r dechnoleg cyflymydd diweddaraf ac algorithmau deallus a gyda thri phrotocol yn adeiledig, mae’r CairFall yn wirioneddol synhwyrydd codymu clyfar, rhyngweithredol.

Beth ydym ni yn ei ddweud

“We love the CairFall! With its different sensitivity levels and comfortable strap, it provides much more flexibility to cater for every individual!”

 

O’r Newyddion

Cau Lawr Dros y Nadolig 2023

Cau Lawr Dros y Nadolig 2023

Cau Lawr Dros y Nadolig – 21 Rhagfyr i 2 Ionawr Mae o wedi bod yn flwyddyn brysur arall i Cair gan ein bod wedi bod yn dathlu ein penblwydd yn 10 oed ag yn lansio nifer o offer newydd. O'r 21ain o...

10 Cynnyrch Newydd i’r 10fed Blwyddyn – Notifier

10 Cynnyrch Newydd i’r 10fed Blwyddyn – Notifier

Blwyddyn yma, rydym yn dathlu ein 10fed penblwydd. I ddathlu, rydym yn lansio 10 cynnyrch newydd. Yr un gyntaf yw'r Notifier, ein derbynnydd i'r dyfodol digidol. Nid yn unig wedi gwella, mae’n...

Seibiannau Byr ‘The Trees’

Seibiannau Byr ‘The Trees’

Mae seibiannau byr 'The Trees' yn wasanaeth gofal 12 ystafell sydd yn rhoi cymorth i oedolion efo anableddau dysgu yn gymuned Hinckley yn Swydd Gaerlŷr. Yn Dachwedd 2020 gafodd yr adeilad eu...