CairFall

Synhwyrydd Cwympo

Mae’r CairFall yn ddyfais canfod cwympo llawn nodweddion ac yn hawdd ei ffurfweddu, wedi’i dylunio i fod yn addas i fwy o ddefnyddwyr nag erioed. Gellir ei gwisgo ar yr arddwrn neu o amgylch y gwddf, ac mae’r ddyfais ysgafn hon yn hybu annibyniaeth a hyder, gan rybuddio gofalwyr yn awtomatig os bydd cwymp trwm yn digwydd. Mae’r botwm hawdd ei wasgu hefyd yn galluogi defnyddwyr i alw am gymorth â llaw.

Gyda phum lefel sensitifrwydd, gellir addasu’r CairFall i gyd-fynd â lefel gweithgarwch y defnyddiwr. Mae ein system goleuadau traffig LED yn gwneud rhaglennu’n gyflym ac yn syml gan ddefnyddio botwm y ddyfais.

Er mwyn cynnig mwy o hyblygrwydd, gall defnyddwyr ganslo rhybudd drwy wasgu’r botwm dair gwaith. Gellir diffodd y nodwedd hon yn gyfan gwbl hefyd, gan sicrhau bod y ddyfais wedi’i theilwra i anghenion unigol.

Mae hysbysiadau dirgryniad a LED yn darparu cadarnhad ar unwaith bod cymorth ar y ffordd, gan roi hyder a thawelwch meddwl i ddefnyddwyr.

Mae’r strap arddwrn elastig yn sicrhau ffit ddiogel a chyfforddus, gyda dewis i’w wisgo o amgylch y gwddf ar gael i’r rhai sy’n well ganddynt hynny.

Wedi’i gyfarparu â’r dechnoleg ddiweddaraf, algorithmau deallus, a thri phrotocol radio adeiledig, mae’r CairFall yn ddyfais canfod cwympo safon uchel sy’n gydnaws â systemau amrywiol.

O’r Newyddion

Ailgylchu, efo Cair

Ailgylchu, efo Cair

Mae gofalu am yr amgylchedd yn bwysig iawn i bob un ohonom yn Cair. Rydym yn cymryd nifer o gamau i leihau ein hôl troed carbon a gwella ein perfformiad amgylcheddol. Rydym yn ymdrechu i gael gwared...

Cau Lawr Dros y Nadolig 2023

Cau Lawr Dros y Nadolig 2023

Cau Lawr Dros y Nadolig – 21 Rhagfyr i 2 Ionawr Mae o wedi bod yn flwyddyn brysur arall i Cair gan ein bod wedi bod yn dathlu ein penblwydd yn 10 oed ag yn lansio nifer o offer newydd. O'r 21ain o...

10 Cynnyrch Newydd i’r 10fed Blwyddyn – Notifier

10 Cynnyrch Newydd i’r 10fed Blwyddyn – Notifier

Blwyddyn yma, rydym yn dathlu ein 10fed penblwydd. I ddathlu, rydym yn lansio 10 cynnyrch newydd. Yr un gyntaf yw'r Notifier, ein derbynnydd i'r dyfodol digidol. Nid yn unig wedi gwella, mae’n...